Wedi’i gyflwyno gan Academy of Cheese ar ran Sgiliau Bwyd a Diod Cymru a’r Clwstwr Bwyd Da; mae’r Cwrs Graddio Caws ar gyfer y rhai sy’n ceisio gwell dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol a pherffeithio sgiliau graddio caws.

Cyflwynir y cwrs gan Katy Fenwick, Rheolwr Prosiect Addysg gyda’r Academy of Cheese; arbenigwraig mewn addysg caws, gwyddor llaeth, technoleg, gwneud caws ac aeddfedu.

Pynciau dan sylw:

Gan ddefnyddio modelau sefydledig yr Academy of Cheese, bydd y cwrs pwrpasol hwn yn cynnwys:

  • Defnyddio’r dull strwythuredig o flasu caws fel arf ar gyfer graddio, asesu aeddfedrwydd, sut i ddatgloi blasau, deall cawsiau’n well a chyfathrebu am flas yn well i gwsmeriaid.
  • Defnyddio model ‘Make Post-Make’ i gael gwybodaeth am amrywiaeth o gawsiau i rymuso datblygu cynyrch newydd a deall safle yn y farchnad.
  • Defnyddio’r Coed Blasu (Academy Flavour Trees) ar gyfer geirfa marchnata a gwerthu.
  • Technegau affinage sy’n berthnasol i ddwy arddull Make Post-Make o gaws.
  • Aeddfediad sy’n berthnasol i’r farchnad, amseriad a defnydd.
  • Diffygion caws – sesiwn holi ac ateb.

Gwestai Gwadd: Sgwrs hanner awr am y cyfleon o fewn y diwydiant caws 

Cost:

Mae’r cwrs fel arfer yn costio £300 y pen, ond bydd busnesau cymwys yn derbyn cymhorthdal*.

Ar gyfer busnesau sy’n cyflogi llai na 49 o bobl – £60

Ar gyfer busnesau sy’n cyflogi dros 50 o bobl – £150

*Bydd Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn trafod gyda phob busnes wrth gofrestru i ddarganfod a ydynt yn gymwys.

 

Sut i archebu eich lle:

Archebwch YMA i sicrhau eich lle yn y digwyddiad hwn. Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael felly fe’ch cynghorir i gofrestru’n fuan.

I gael rhagor o fanylion cysylltwch â sgiliau-cymru@mentera.cymru

 

Share this page

Print this page