Yn ddiweddar, fe wnaeth Sgiliau Bwyd a Diod Cymru | Food & Drink Skills Wales alw ar lysgenhadon y diwydiant bwyd a diod i ffurfio Grŵp Arbenigol penodol i nodi bylchau o ran sgiliau a chyfleoedd yn y diwydiant.
Prif nod y Grŵp Arbenigol oedd nodi'r bylchau o ran sgiliau hanfodol yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru. Defnyddiwyd gwybodaeth ddigyffelyb y grŵp i ddeall a chrynhoi'r hyn sy’n achosi’r bylchau mewn gwahanol feysydd strategol. Fe wnaethon nhw hefyd nodi rhaglenni eang i helpu i fynd i'r afael â'r bylchau hyn, trwy eu blaenoriaethu i mewn i gynllun.
Cafwyd tri chyfarfod ledled Cymru gan roi cyfle i gynrychiolwyr gymryd rhan mewn trafodaethau a sicrhau bod y rhaglen yn cyfrannu'n effeithiol at gefnogi Gweledigaeth Llywodraeth Cymru am ddiwydiant bwyd a diod cryf a bywiog yng Nghymru.
Rhannodd Sophie Colquhoun o Gategori Insight ganfyddiadau o’r Arolwg Ymgysylltu â Gweithwyr a gynhaliwyd gan WorkL. Cafodd y materion a nodwyd gan yr arolwg hwn eu hystyried hefyd. Mae hyn yn ychwanegol at ddau adroddiad ymchwil annibynnol a gomisiynwyd gan y rhaglen yn ddiweddar. Edrychodd y rhain yn benodol ar fylchau o ran sgiliau ac anghenion y diwydiant yn y dyfodol.
O dan gadeiryddiaeth Neil Burchell, mentor profiadol a chyfarwyddwr The Welsh Whisky Company, nododd y Grŵp Arbenigol y prif feysydd y gallai rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru gyfrannu tuag atyn nhw a mynd i’r afael â nhw.
Un maes o bryder i'r diwydiant a gafodd ei godi oedd diffyg peirianwyr. Yn dilyn trafodaethau yn y cyfarfod ac awgrymiadau ar sut i fynd i'r afael â hyn, gweithredwyd ar hyn ar unwaith. Cafodd partneriaeth ei ffurfio â’r Tîm Cyswllt Cyflogaeth yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot sy'n wynebu’r her ar hyn o bryd o ddod o hyd i swyddi newydd ar gyfer gweithlu Tata Steel yn dilyn diswyddiadau yn ddiweddar.
Dywedodd Kate Rees, Rheolwr Prosiect Sgiliau Bwyd a Diod Cymru | Food & Drink Skills Wales:
"Roedd y trafodaethau yn y tri chyfarfod yn hynod werthfawr i ni. Mae'n golygu ein bod ni’n gallu cynllunio ymlaen llaw gan ddefnyddio tystiolaeth a gwybodaeth uniongyrchol am y sefyllfa bresennol o ran y bylchau mewn sgiliau yn y diwydiant a gweithio tuag at fynd i'r afael â nhw fel rhaglen."
Roedd y rhai oedd yn bresennol yn ystod y tri chyfarfod yn cynnwys cynrychiolwyr o Ganolfan Bwyd Cymru, Wickedly Welsh, Zero2Five, Capestone Organic, Penderyn, Category Insight, Terry's Patisserie, Canolfan Technoleg Bwyd, Hufenfa De Arfon, Hilltop Honey, In the Welsh Wind Distillery, a Marchnata Bwyd Cyfan. Roedd y cynrychiolwyr i gyd yn cynrychioli amrywiaeth o swyddogaethau busnes, gan gynnwys uwch arweinyddiaeth, masnach, AD, cyllid a gweithgynhyrchu.
Dywedodd Rob Cumine o Capestone Organic a oedd yn y cyfarfod cyntaf:
"Mae'r Grŵp Arbenigol wedi rhoi cyfle gwych i ni fel cwmni gyfrannu ein canfyddiadau ein hunain at y trafodaethau ehangach a rhannu rhai o'r heriau sy'n ein hwynebu fel diwydiant. Dwi’n edrych ymlaen at weld y cynllun cyhoeddedig o sut i gyflwyno cyfres o raglenni i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru ac, yn y pen draw, gyfrannu at ddyfodol llewyrchus i’r sector bwyd a diod yma yng Nghymru."