Pysgodfeydd
Mae ein Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod yn cydnabod pwysigrwydd twf cynaliadwy a’r gwerth ychwanegol i’r diwydiant pysgota yng Nghymru, sy’n cynhyrchu’r bwyd môr a’r pysgod o’r safon orau. Mae’r rhan fwyaf o’r cynhyrchion sy’n boblogaidd yn nhai bwyta Cymru ac sy'n cael eu hallforio ledled y byd, yn cael eu dal mewn cychod teuluol bychan, gan darfu cyn lleied â phosib ar yr amgylchedd.
Twf a gwerth ychwanegol
Yr allwedd i gynaliadwyedd y diwydiant pysgodfeydd yng Nghymru yw’r ymdrech i sicrhau twf a gwerth ychwanegol. Rydym eisoes yn adnabyddus ledled y DU a marchnadoedd y byd am y bwyd môr a’r pysgod o’r safon orau. Mae’r cynhyrchion yn boblogaidd yn nhai bwyta Cymru fel rhan o’n harlwy bwyd a diod, sydd â rôl bwysig o ran rhoi hwb i dwristiaeth, ac mae allforion ar draws y byd hefyd yn adlewyrchu eu poblogrwydd a’u hansawdd. Mae ein Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod yn cydnabod hyn drwy roi sylw i anghenion y diwydiant yn y dyfodol.
Ffeithiau Allweddol - Diwydiant Bwyd Môr Cymru
Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF)
Bydd yr EMFF yn rhoi cymorth i’r sectorau pysgota a dyframaethu dyfu mewn modd cynaliadwy a bydd hefyd yn rhoi cymorth i gynnal yr amgylchedd morol, gan gefnogi twf a swyddi mewn cymunedau arfordirol ar yr un pryd.
Yma yng Nghymru, y bwriad yw canolbwyntio ar brosiectau a fydd yn gydnaws â blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu sector pysgota llewyrchus, cystadleuol a chynaliadwy.
Prynu bwyd môr yng Nghymru
Mae 'arloesol', 'cynaliadwy' a 'llwyddiannus' ymhlith y geiriau sy'n gallu cael eu defnyddio i ddisgrifio bwyd môr o Gymru. O gimychiaid Ynys Môn a chregyn gleision glannau'r Fenai i gregyn bylchog Bae Ceredigion a gwymon Abertawe, mae rhywbeth at ddant pawb yng Nghymru.
Ddarllen mwy am prynu bwyd môr yng Nghymru.
Ymrwymiad Glanio
Mae Rheoliad Sylfaenol y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin wedi sefydlu ymrwymiad i gadw a glanio pob pysgodyn oedd yn cael eu taflu i ffwrdd yn y gorffennol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'r gwefannau canlynol Llywodraeth Cymru.
Canfod rhagor o gyfleoedd i allforio
Mae’r rhan fwyaf o bysgod a bwyd môr yng Nghymru’n cael eu dal mewn cychod teuluol bychan sy’n gweithio’n aml mewn porthladdoedd bychan o amgylch ein harfordir, gan darfu cyn lleied â phosib ar yr amgylchedd. Mae Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gyda Chymdeithas Pysgotwyr Cymru a Seafish Wales i ganfod marchnadoedd allforio newydd ar gyfer ein cynhyrchion o safon. Mae cysylltiadau gweithio cadarn yn cael eu datblygu i barhau i godi proffil ac enw da’r diwydiant, a sicrhau gwerth ychwanegol i’r bwydydd maethlon hyn y gellir eu defnyddio mewn sawl ffordd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:
- Pysgod môr (Seafish)
- Academi Bwyd Môr (Seafood Academy)
- Cymdeithas Pysgotwyr Cymru (Welsh Fishermans Association)