Bydd y digwyddiad hwn sydd am ddim yn cwmpasu materion allweddol yn ymwneud â bwyd a diod 'rhydd rhag' gan gynnwys dadansoddi'r farchnad, gwybodaeth arwyddocaol i ddefnyddwyr, ystyriaethau technegol a thueddiadau'r dyfodol.
Mae'r farchnad 'rhydd rhag' bwyd a diod yn ffynnu yng Nghymru a Phrydain Fawr gan fod nifer y bobl sydd â symptomau o anoddefiad bwyd wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Dyma eich cyfle i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y ffordd y gall eich cwmni fanteisio ar y cyfleoedd yn y sector hwn. P'un a ydych eisoes yn gynhyrchwr bwyd a diod i bobl ag anoddefiad neu'n ystyried arallgyfeirio i mewn i'r categori hwn, bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i chi glywed o amrywiaeth o siaradwyr arbenigol.
Bydd Kantar yn ymuno â ni er mwyn rhannu eu data defnyddwyr Worldpanel; ynghyd â Coeliac UK a fydd yn rhoi cipolwg ar ffyrdd o fyw heb glwten; ac arbenigwyr technegol a masnachol o Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Caiff y digwyddiad hwn ei gynnal mewn lleoliadau yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru hefyd yn fuan. Os hoffech gofrestru diddordeb ar gyfer y lleoliadau hyn, anfonwch e-bost at egilbert@cardiffmet.ac.uk
Mae lleoedd yn brin felly cofrestrwch nawr.