Pecyn Partneriaeth: paratoi ar gyfer newidiadau i ffiniau'r DU ar ôl ymadael â'r UE 'heb gytundeb'.
Nodyn y pecyn partneriaeth hwn yw eich helpu i gefnogi busnesau sy’n paratoi ar gyfer y diwrnod cyntaf os byddwn yn ymadael â’r UE heb gytundeb. (Saesneg yn unig).
Llywodraeth y DU i gyhoeddi ei Nodiadau Technegol i roi cyngor i fusnesau ynghylch sut i baratoi os bydd y DU yn gadael yr UE heb fargen.
Ar 23 Awst, cyhoeddodd Llywodraeth y DU rai o’i nodiadau technegol yn rhoi amlinelliad o’i pharatoadau ar gyfer Brexit heb fargen. Cafodd y nodiadau hyn eu cynllunio i dynnu sylw busnesau at yr effaith a welir ar unwaith o sefyllfa heb fargen yn eu meysydd hwy, gyda’r nod o annog busnesau i wybod mwy yn eu paratoadau ar gyfer ymadael â’r UE.
Mae hysbysiadau technegol ar gael yma (Saesneg yn unig)
Mae disgwyl rhagor o nodiadau technegol yn cynnwys mwy o feysydd busnes yn yr wythnosau nesaf. Os ydych am gysylltu â Llywodraeth y DU o ynghylch y nodyn technegol, dylech ddefnyddio’r cyfeiriad ebost foodchainengagement@defra.gsi.gov.uk