Ym mis Mawrth 2020, ysgrifennodd y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton, at 125,000 o’r bobl mwyaf bregus yn gofyn iddynt gymryd camau gwarchod, gan gynnwys aros gartref am 12 wythnos. O ganlyniad i'r cyngor hwn, ymchwiliodd Llywodraeth Cymru i ddarparu blychau bwyd i'r bobl hynny yng Nghymru nad oedd ganddynt deulu na ffrindiau yn gymorth, neu nad oeddent yn gallu cael gafael ar ddosbarthu bwyd ar-lein oherwydd y galw digynsail am y gwasanaeth.
Oherwydd y sefyllfa gyfnewidiol a difrifoldeb gwarchod y rhai mwyaf bregus bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu'n gyflym.
Efelychodd Llywodraeth Cymru ddull cynllun cenedlaethol Defra, gan ddefnyddio'r dosbarthwr, Brakes and Bidfood a oedd eisoes wedi'i penodi i ddarparu gwasanaeth darparu bwyd ledled Cymru. Roedd dewis yr opsiwn hwn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru, ddarparu ateb 'oddi ar y silff' i argyfwng cenedlaethol mewn modd gyflym ac effeithiol. Daeth rôl y cynllun yn weithredol i Gymru o fewn pythefnos i'r cyhoeddiad cychwynnol.
Cafodd addasiad Cymru o'r cynllun cenedlaethol ei ehangu a'i ychwanegu gan Dîm Polisi Llywodraeth Cymru, yr Is-adran Bwyd a Diod a'r Tîm Iechyd, a fu'n gweithio'n agos gyda Defra a'r dosbarthwyr cenedlaethol Brakes and Bidfood i gytuno ar gynllun cyflawni clir i Gymru. Penderfynwyd, o dan amgylchiadau heriol pandemig byd-eang, y byddai'r blychau bwyd yn 'un ateb sy'n addas i bawb' a byddai'n darparu cyflenwadau bwyd sylfaenol i dderbynwyr a oedd mewn gwir angen.
Roedd prif gynhyrchion y blychau bwyd yng Nghymru yn cynnwys: llaeth, tatws, potel o ddŵr, bisgedi, bara, grawnfwyd brecwast a margarin di-laeth ac yn amodol ar argaeledd. Roedd yr holl eitemau hyn yn gynhyrch Cymreig.
Datblygwyd dau Gynllun Peilot Lleol arall hefyd gan Awdurdodau Lleol Ceredigion a Sir Gaerfyrddin i archwilio dulliau gweithredu rhanbarthol a oedd yn caniatáu i gynnyrch garddwriaeth a chyflenwadau ffrwythau ychwanegol o Gymru gael eu cynnwys.
Roedd y cynllun yng Nghymru yn para cyfanswm o 20 wythnos ac wedi'i ymestyn o'r cyfnod cychwynnol o 12 wythnos. Dosbarthwyd cyfanswm o 214,711 o flychau yng Nghymru dros gyfnod o 20 wythnos.