Byddant yn Llundain dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi i ddangos y cynnyrch gwych sydd ganddynt. I'w croesawu yno, bydd siopau fel John Lewis, Partridges, Harrods, Marks & Spencer a Waitrose.

Meddai Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd,

"Mae'n wych gweld ein cynhyrchwyr yn dathlu diwrnod Nawddsant Cymru ac yn hyrwyddo eu cynnyrch rhagorol yn Llundain.  Mae gennym amrywiaeth eang iawn o gynnyrch o safon yma yng Nghymru.  Fel Llywodraeth, rydym yn falch o'u cefnogi i lwyddo, fel rhan o'n targed uchelgeisiol o ddatblygu'r diwydiant 30% i £7 biliwn erbyn y flwyddyn 2020." 

Caiff Dewi Sant ei ddathlu ledled y byd ar Fawrth 1 - ac mae'n rhan bwysig o dreftadaeth Cymru, fel ein bwyd a'n diod, sy'n un o'r sectorau economaidd sy'n flaenoriaeth yng Nghymru.  Mae'r digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i gyfuno'r ddau, i ddangos safon ein bwyd o Gymru ar ddiwrnod allweddol yng nghalendr Cymru. 

Meddai Rufus Cartwright, Cyfarwyddwr Patchwork Traditional Food Company Limited, fydd yn mynychu'r dathliadau y penwythnos hwn,

"Rydym yn falch o fod yn mynychu'r digwyddiad hwn yn Neuadd Fwyd John Lewis i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, fydd yn hyrwyddo amrywiaeth eang o fwyd a diod o Gymru sy'n cael ei werthu yma yn Llundain.   

“Mae'r digwyddiad hwn yn golygu bod modd inni hyrwyddo Cymru a'n cynnyrch lleol i gynyddu gwerthiant a datblygu ein busnes."  

Bydd y gweithgareddau yn dechrau ddydd Sadwrn 28 Chwefror gyda bwyd ar gael i'w flasu yn Neuadd Fwyd John Lewis, Oxford Street.  Cynhelir sesiynau blasu Teisennau Cymreig yn Waitrose, Canary Wharf yn ogystal â  Marks and Spencer, Marble Arch a nifer o siopau Cymreig. 

Dydd Sadwrn  28 Chwefor a dydd Sul 1 Mawrth bydd cynnyrch o Gymru ar gael i'w flasu ym Marchnad Partridges a hefyd yn y siop, gydag amrywiol gawsiau, siocledi, cynnyrch y becws a chwrw.  Yn Harrods, bydd gwahanol fathau o gig o Gymru ar gael i'w blasu, a hefyd ein wisgi enwog, Wisgi Penderyn. 

Neuaddau Bwyd Llundain yn dathlu Dydd Gwyl Dewi

Waitrose Canary Wharf

Dydd Gwener 27 Chwefror
7am - 8.30
11.30 - 13.30
15.30 -17.30

John Lewis, Oxford Street

Dydd Sadwrn 28 Chwefror
11.30 - 14:00
16:00 - 18:00

M&S Marble Arch & Cheshire Oaks

28 Chwefror
Blasu Teisennau Cymreig y Village Bakery
Marble Arch, Cheshire Oaks a Wrecsam, Abertawe, Croes Cwrlys, Hwlffordd, Caerdydd, Llandudno

Marchnad Partridges

Dydd Sadwrn 28 Chwefror, 11am-4pm / ac yn y siop ddydd Sul 1 Mawrth, 12-4.30pm

  • amrywiol gawsiau a menyn o Bwyd Cymru Bodnant (ar gael yn Llundain am y tro cyntaf)
  • Wrexham Lager o'r bragdy a sefydlwyd 120 mlynedd yn ôl  
  • cig a selsig gan Rhug Estate
  • cig Oen gan Daphne’s Original Welsh Lamb
  • teisennau cri, bara brith a muffins o Henllan Bakery
  • jam, marmled a siytni gan Radnor Preserves
  • amrywiol gawsiau gan gynnwys rhai o'r Snowdonia Cheese Company
  • cyffug a saws cyffug gan Eboni ac Eifori
  • ciocledi wedi'u gwneud â llaw gan Sarah Bunton
  • Halen Môr Halen Môn o ddyfroedd Ynys Môn

Harrods

Dydd Sadwrn 28 Chwefror, 10.30am-4pm
Bydd yn bosibl blasu'r bwydydd a'r diodydd canlynol o Gymru yn lleoliad gwych Neuaddau Bwyd enwog Harrods.  Mae Neuaddau Bwyd Harrods yn atyniad twristaidd mawr ohonynt eu hunain, yn cynnig bwyd a diod arbennig mewn awyrgylch theatrig. 

Bydd cyw iâr o'r Rhug Estate, o Sir Ddinbych, Gogledd Cymru, ar gael.  Mae eu ffermydd yn cynhyrchu Cig Eidion Aberdeen Angus, Cig Oen o Gymru, Cig Oen Morfa Heli Cymru, Cyw Iâr, Gwyddau a Thwrci, wedi'u magu'n organig.

Wisgi Penderyn, y wisgi brag cyntaf o Gymru ers 100 mlynedd, wedi'i gynhyrchu o Ddistyllwyr Penderyn ym mhentref traddodiadol Penderyn, sydd yn ne Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.