Cafodd newyddiadurwyr rhyngwladol o 60 o wledydd eu gwahodd i flasu'r gorau o fwyd a diod Cymru mewn digwyddiad arbennig yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd neithiwr, wedi'i noddi gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer gweithwyr cyfryngau'r byd yn ystod eu hymweliad ar gyfer uwchgynhadledd NATO.  

Bu'r gwesteion yn mwynhau cynnyrch lleol mewn bwffe poeth, yn ogystal ag arddangosfa o far a chegin.  Bu'r cogyddion yn paratoi canapés ar gyfer y nos, gan ddefnyddio cynhwysion ffres, a gynigwyd i'r gwestion wrth iddynt rwydweithio, ac roedd arddangosfa o fwyd a diod Cymru, ac ardal flasu, yn tynnu sylw at y cynnyrch unigryw sydd ar gael yng Nghymru.  

Cafodd bwyd y nos ei baratoi gan Elwen Roberts, cogydd Cymdeithas Goginio Cymru a Hybu Cig Cymru, mewn cegin annibynnol  o fewn marquee y digwyddiad, ac SA Brain ac amryfal gynhyrchwyr diodydd yn darparu'r bar.   

Cafodd cynnyrch o 60 o wahanol gynhyrchwyr o Gymru, gan gynnwys cigoedd, cynnyrch llaeth, newyddau wedi'u pobi, a bwyd môr, eu harddangos yn y digwyddiad, gan eu hyrwyddo led-led y byd.  Roedd cynrychiolwyr o 19 o'r cynhyrchwyr hyn yn bresennol, gan ddod â'u cynnyrch, o 

Nid yn unig oedd y noson yn arddangos y gorau o fwyd a diod Cymru i gynrychiolrwyr rhyngwladol, ond roedd hefyd yn gadael i'r gwesteion wybod pa mor bwysig yw'r diwydiant bwyd a diod i economi Cymru.   

Meddai Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth:  

“Mae llygaid y byd wedi bod ar Gymru yr wythnos hon wrth inni groesawu arweinwyr NATO, yn ogystal â 1,500 o newyddiadurwyr rhyngwladol, i Gasnewydd a Chaerdydd.  Roedd y derbyniad ar gyfer gweithwyr y cyfryngau NATO yn Nhŷ Tredegar yn rhoi llwyfan byd-eang inni, i'n galluogi i arddangos rhywfaint o'r amrywiaeth o gynnyrch bwyd a diod hynod arloesol, safonol, sydd gan Gymru i'w chynnig.

“Mae digwyddiadau o'r fath  yn rhan o'n strategaeth uchelgeisiol i ddatblygu'r sector bwyd a diod, drwy weithio gyda'r diwydiant i gynyddu cynnyrch 30%, a fydd yn helpu ymhellach i godi proffil ac enw da bwyd a diod Cymru i'r farchnad ryngwladol.  

Share this page

Print this page