Mae cwmni o Ogledd Cymru yn dathlu heddiw ar ôl ennill un o brif wobrau bwyd gwledydd Prydain. Cynhaliwyd Gwobrau Great Taste, sy’n cael eu hystyried yn wobrau Oscar y byd bwyd, yn Llundain neithiwr ac enillodd y Patchwork Traditional Food Company y wobr am y cynnyrch rhanbarthol gorau yng nghategori Cymru.

A hwythau eisoes wedi cael tair seren yn y Gwobrau Great Taste a chael gwybod bod eu Red Pesto Pate wedi cael ei enwi yn un o 50 cynnyrch gorau’r flwyddyn, mae’r cwmni o Sir Ddinbych erbyn hyn yn dathlu anrhydedd arall yn dilyn seremoni rwysgfawr yng nghanol Llundain neithiwr.

Mae’r Rheolwr Gyfarwyddwr Rufus Carter yn arbennig o falch o lwyddiant y cwmni, a meddai: “Allan o 10,000 o gynhyrchion a gyflwynwyd ar gyfer y Gwobrau Great Taste, dim ond 153 gafodd dair seren, ac felly roedd cyrraedd mor bell â hynny ac yna cael ein henwi yn y 50 uchaf yn wych. Mae ennill y wobr ychwanegol hon yn eisin ar y gacen – rydan ni wrth ein bodd. 

Mae ein cwmni wedi tyfu cryn dipyn dros y blynyddoedd ond mae ein cynnyrch yn dal i gael ei wneud mewn sypynnau bychain er mwyn ceisio sicrhau ein bod yn cadw ansawdd y blas mae ein cwsmeriaid ffyddlon yn ei fwynhau. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn wobr deilwng am holl waith caled ac ymroddiad ein staff dros y blynyddoedd.”

Cafodd 121 o gynhyrchion o 62 o fusnesau o Gymru eleni un, dwy neu dair seren, ac roedd rhai ohonynt hefyd wedi ymddangos ar y fwydlen yn nigwyddiadau uwchgynhadledd ddiweddar NATO a gynhaliwyd yng Nghasnewydd.

Mae’r Patchwork Traditional Food Company yn un o’r cwmnïau sy’n cynrychioli Cymru yn y Ffair Bwyd Arbenigol Gorau yn Llundain, sy’n cyd-ddigwydd â Gwobrau Great Taste. Y Ffair yw digwyddiad masnach mwyaf y sector yn y DU ac mae’n denu prynwyr o bell ac agos, sy’n golygu ei fod yn llwyfan hollbwysig i fusnesau o Gymru hyrwyddo eu cynnyrch.

 

Share this page

Print this page