Enwau bwyd gwarchodedig
Cynllun Enwau Bwyd Gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd (EUPFN)
Gwarchodir dilysrwydd cynnyrch bwyd a diod unigryw i Gymru dan ddeddf Ewropeaidd bellach.
Mae cynnyrch cig a llaeth o Gymru’n mwynhau’r statws hwn mewn marchnadoedd rhyngwladol. Rydym yn gweithio ar dyfu’r ystod o gynnyrch gwarchodedig rhanbarthol a thraddodiadol o Gymru, gan roi cyngor i gwmnïau ynghylch sut mae gwneud cais.
Rhywbeth i bawb
Mae gwarchodaeth yn elfen hanfodol o sector llwyddiannus. Mae’n rhoi hawliau neilltuol i ni weithgynhyrchu a gwerthu cynnyrch – am bris premiwm. Gall manwerthwyr ac arlwywyr fod yn sicr o ddilysrwydd a tharddiad y cynnyrch, ac mae’n eu gwneud yn wahanol i gynhyrchion eraill – gyda phris premiwm hefyd. Hefyd mae’r defnyddiwr yn gwybod ei fod yn cael y cynnyrch dilys, gyda phrawf o’i dreftadaeth a’i draddodiad.
Popeth dan reolaeth
Rydym yn cael ein gwarchod dan ddeddf Ewropeaidd mewn sawl ffordd. Mae Enw Tarddiad Gwarchodedig yn golygu bod y cynnyrch yn cael ei gynhyrchu, ei brosesu a’i baratoi mewn un ardal benodol – ac os mai dim ond un o’r gweithgareddau hynny sy’n cael eu cynnal yn yr ardal benodol, gall y cynnyrch fod yn ddilys ar gyfer Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig o hyd.Os yw’n dilyn rysáit traddodiadol neu’n defnyddio dull cynhyrchu traddodiadol, gall fod yn gymwys am Warant Arbenigedd Traddodiadol.
Am ragor o wyboddaeth, ewch i'r gwefannau canlynol:
Enwau Bwyd Gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd - Cyflwyniad
Cyflwynwyd Cynllun Enwau Bwyd Gwarchodedig Ewrop (EUPFN) yn Ewrop ym 1993 i warchod cynhyrchion bwyd a diod ar sail rysait neu ardal. Mae’r Cynllun yn dod o dan Reoliad yr UE Rhif 1151/2012. Mae Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru sydd am ymchwilio a gwneud cais am enw bwyd a ddiogelir (EUPFN) neu ddangosydd ddaearyddol (GI). Mae 4 cynnyrch ag EUPFN yng Nghymru gyda llawer mwy yn y cam ymchwilio a gwneud cais.
Comisiynwyd gwaith yn ddiweddar i ddeall gwerth EUPFN yn well. Dangosodd fod yr holl gynnyrch Cymreig sydd wedi ennill statws EUPFN yng Nghymru wedi elwa’n economaidd ac yn gymdeithasol a bod gan gynhyrchion EUPFN fantais o ran cael lle ar silffoedd siopau a neges gref a bod hyn yn hwb mawr i’r busnes cysylltiedig.
Enwau Bwyd Gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd Crynodeb Gweithredol