Enwau bwyd gwarchodedig

Cynllun Enwau Bwyd Gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd (EUPFN)

Protected designation of origin

Gwarchodir dilysrwydd cynnyrch bwyd a diod unigryw i Gymru dan ddeddf Ewropeaidd bellach.  

Mae cynnyrch cig a llaeth o Gymru’n mwynhau’r statws hwn mewn marchnadoedd rhyngwladol. Rydym yn gweithio ar dyfu’r ystod o gynnyrch gwarchodedig rhanbarthol a thraddodiadol o Gymru, gan roi cyngor i gwmnïau ynghylch sut mae gwneud cais.  


Traditional speciality guaranteed

Rhywbeth i bawb

Mae gwarchodaeth yn elfen hanfodol o sector llwyddiannus. Mae’n rhoi hawliau neilltuol i ni weithgynhyrchu a gwerthu cynnyrch – am bris premiwm.  Gall manwerthwyr ac arlwywyr fod yn sicr o ddilysrwydd a tharddiad y cynnyrch, ac mae’n eu gwneud yn wahanol i gynhyrchion eraill – gyda phris premiwm hefyd. Hefyd mae’r defnyddiwr yn gwybod ei fod yn cael y cynnyrch dilys, gyda phrawf o’i dreftadaeth a’i draddodiad.

 


Protected geographical indication

Popeth dan reolaeth

Rydym yn cael ein gwarchod dan ddeddf Ewropeaidd mewn sawl ffordd. Mae Enw Tarddiad Gwarchodedig yn golygu bod y cynnyrch yn cael ei gynhyrchu, ei brosesu a’i baratoi mewn un ardal benodol – ac os mai dim ond un o’r gweithgareddau hynny sy’n cael eu cynnal yn yr ardal benodol, gall y cynnyrch fod yn ddilys ar gyfer Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig o hyd.Os yw’n dilyn rysáit traddodiadol neu’n defnyddio dull cynhyrchu traddodiadol, gall fod yn gymwys am Warant Arbenigedd Traddodiadol.

Am ragor o wyboddaeth, ewch i'r gwefannau canlynol:


Enwau Bwyd Gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd - Cyflwyniad

Cyflwynwyd Cynllun Enwau Bwyd Gwarchodedig Ewrop (EUPFN) yn Ewrop ym 1993 i warchod cynhyrchion bwyd a diod ar sail rysait neu ardal. Mae’r Cynllun yn dod o dan Reoliad yr UE Rhif 1151/2012. Mae Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru sydd am ymchwilio a gwneud cais am enw bwyd a ddiogelir (EUPFN) neu ddangosydd ddaearyddol (GI). Mae 4 cynnyrch ag EUPFN yng Nghymru gyda llawer mwy yn y cam ymchwilio a gwneud cais.

Comisiynwyd gwaith yn ddiweddar i ddeall gwerth EUPFN yn well. Dangosodd fod yr holl gynnyrch Cymreig sydd wedi ennill statws EUPFN yng Nghymru wedi elwa’n economaidd ac yn gymdeithasol a bod gan gynhyrchion EUPFN fantais o ran cael lle ar silffoedd siopau a neges gref a bod hyn yn hwb mawr i’r busnes cysylltiedig. 

Enwau Bwyd Gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd Crynodeb Gweithredol