Prifysgol Caerdydd
Dewch o hyd i ni yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr
Mae menter yn ymwneud â meddwl yn greadigol, sylwi ar gyfleoedd, gwneud i bethau ddigwydd, a datblygu sgiliau ar gyfer bywyd. Mae’n fwy na dim ond busnes; mae'n ymwneud â’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch hun. Mae tîm Menter Prifysgol Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i wella eich profiad myfyriwr a’ch gwneud yn fwy cyflogadwy.
Cymerwch ran yn y canlynol a mawr fydd eich gwobr:
- Her Arloesi Prifysgol Caerdydd: ennill gwobr ariannol
- Ignite: ennill toreth eang o sgiliau busnes mewn ychydig ddyddiau
- Cysyniad: ennill gwobr ariannol a chyfle i ddylunio briff hysbysebu ar gyfer cwmni mawr
- Ymgynghorydd busnes ar y safle: cael cyngor ar eich syniadau busnes
- Gweithdai Menter: datblygu eich CV a dod yn fwy cyflogadwy
- iSolve: Profi Ymchwil Masnachol a dadansoddi masnachol o ymchwil prifysgol unigryw i ôl-raddedigion
- Gweithdai Busnes: cael gwybod sut i gael bwrsariaethau, cyllid a chymorth cychwyn busnes eraill
- Wythnos Cychwyn Busnes: mynd â'ch syniad i'r farchnad
Dewch i wybod mwy yn: http://www.cardiff.ac.uk/enterprise
Facebook: www.facebook.com/studententerprise
Twitter: @CardiffUniE
Y Tîm:
Georgina Moorcroft - MoorcroftG@cardiff.ac.uk