Prifysgol y Drindod Cymru

Yn: Y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Datblygiad Creadigol Entrepreneuraidd (IICED), Uned 10, J Shed, Kings Road, Abertawe SA1 8PH; C1007, Carwyn James, Gwasanaethau Ymchwil, Arloesi a Mentergarwch, Caerfyrddin, SA31 3EP; a Gyrfaoedd, Llanbedr Pont Steffan.

Ydych chi'n ystyried dechrau busnes? Neu a oes gennych chi fusnes yn barod?

Does dim byd yn curo’r boddhad o redeg eich busnes eich hun – gan ddilyn eich angerdd i fod yn fos arnoch chi’ch hun, rheoli eich amser eich hun, a gwneud eich penderfyniadau eich hun. Efallai eich bod yn breuddwydio am weithio i chi’ch hun, bod gennych syniad gwych ar gyfer busnes newydd ond rydych chi’n poeni am y risgiau o fwrw ati ar eich pen eich hun, neu nid oes gennych ddigon o hyder a’r sgiliau angenrheidiol i gymryd y cam cyntaf. Efallai eich bod yn rhedeg busnes newydd llwyddiannus ac y byddech yn elwa o gael rhywfaint o arweiniad, neu efallai y byddech yn hoffi cynyddu eich set sgiliau trwy gael cyngor arbenigol. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae pob perchennog busnes yn wynebu’r un heriau.

 

Ydych chi'n raddedig? Darganfyddwch pam mae Abertawe yn lle gwych i gychwyn eich busnes

Gall Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gynnig y canlynol i chi:

  • Y Swigen Greadigol – siop a rhwydwaith i gefnogi gweithgareddau sy’n cael eu rhedeg gan fyfyrwyr: siopau dros dro, arddangosfeydd, perfformiadau, codi arian, rhwydweithiau, cyfarfodydd

  • Cymorth i ddechrau busnes - cymorth a ariennir gan y Sefydliad a Llywodraeth Cymru

  • Cyfarfodydd un i un

  • Gweithdai Eiddo Deallusol a Chreadigrwydd

  • Cyfleoedd i drafod, archwilio, a rhwydweithio gyda myfyrwyr o'r un anian ac entrepreneuriaid

  • Cysylltiadau â diwydiant - prosiectau, siaradwyr gwadd a rhwydweithio gyda busnesau

  • Digwyddiadau'r Wythnos Fenter

  • Gweithgareddau allgyrsiol - cystadlaethau, gweithdai cychwyn busnes, cwrdd â chyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd

  • Siaradwyr sy'n ysbrydoli (yn cynnwys ein cyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd)

Y Tîm

Dylan Williams-Evans - Rheolwr Menter / Hyrwyddwr Entrepreneuriaeth - Ebost:Dylan.Williams-Evans@uwtsd.ac.uk

Hywel Davies

Nicola Powell

Kathryn Penaluna

 

Dewch i wybod mwy yn: http://www.uwtsd.ac.uk/enterprise

Facebook: https://www.facebook.com/swanseacreativebubble

Twitter: @UWTSD