Rydym yn recriwtio am Asiantau Entrepreneuriaeth Ieuenctid

Mae Asiantau Entrepreneuriaeth Ieuenctid yn dîm deinamig o wirfoddolwyr sy’n cynrychioli Llais Entrepreneuriaeth Ieuenctid yng Nghymru.

 

Rydym wrthi’n recriwtio am wirfoddolwyr rhwng 16-25 oed i fynychu 4 cyfarfod rhithwir o fis Mawrth - Ebrill 2021 (tua 12 awr o’ch amser), i gynrychioli barn darpar entrepreneuriaid ifanc ar draws Cymru, gan lywio a dylanwadu ar benderfyniadau’r dyfodol.

Beth ydych chi’n ei gael?

  • Cyfle unigryw am brofiad gwaith.
  • Ymuno â rhwydwaith o unigolion o’r un feddylfryd.
  • Mynediad i ddosbarthiadau meistr ecsgliwsif gan arbenigwyr ac entrepreneuriaid blaenllaw i gefnogi eich datblygiad a’ch cynnydd personol fel arweinydd entrepreneuraidd y dyfodol.

Ymgeisiwch ar-lein nawr

 

Gweld a darllen y cytundeb Asiant Entrepreneuriaeth Ieuenctid yma a'r polisi preifatrwydd yma

Os ydych chi o dan 18 oed, gofynnwch i'ch rhiant neu warcheidwad lenwi'r ffurflen a'i hanfon at enquiries@bigideaswales.com 


Meini prawf ychwanegol

  • Gadarnhau eich bod yn gallu ymrwymo eich amser i gymryd rhan (tua 12 awr dros 6 mis)
  • Bod gennych ddiddordeb neu ddyhead i fod yn fos arnoch chi eich hun un dydd neu efallai eich bod yn rhedeg eich busnes eich hun yn barod.
  • Rydych rhwng 16-24 (sylwer os ydych o dan 18 oed, bydd angen i chi hefyd ofyn i’ch rhiant / gwarcheidwad lenwi ffurflen caniatâd a’I dychwelyd gyda’ch cais)
  • Rhannwch gyda ni yr hyn rydych chi’n disgwyl ei gael o’r profiad hwn?
  • Dywedwch wrthym ni beth rydych chi’n teimlo yw’r mater pwysicaf sy’n wynebu pobl ifanc yng Nghymru sy’n dymuno dechrau busnes.

Beth sy'n digwydd ar ôl hynny?

Nid yw’r broses yn gorffen ym mis Ebrill 2021. Ar ôl casglu’r holl wybodaeth, byddwn yn dechrau creu adroddiad gyda set o argymhellion i helpu i fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau rydych chi wedi’u codi sy’n wynebu pobl ifanc sydd â dyhead i fod yn fos arnyn nhw eu hunain. Byddwn yn ceisio creu cynlluniau gweithredu i gymell, gyda’n gilydd, y newid rydych wedi’i nodi sydd ei angen i chi alluogi datblygiad pobl ifanc yng Nghymru sydd â dyhead i fod yn fos arnyn nhw eu hunain. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar enquiries@bigideaswales.com

Beth yw Syniadau Mawr Cymru?

Mae Syniadau Mawr Cymru yn annog pobl ifanc ledled Cymru i fod yn entrepreneuraidd a helpu’r rhai sydd â diddordeb mewn cychwyn busnes i ddatblygu eu syniad; rydym yn rhan o deulu Busnes Cymru sy’n cynnig gwasanaethau Entrepreneuriaeth
Ieuenctid ar ran Llywodraeth Cymru.