Ble maen nhw nawr?

Mae cynhyrchion mislif ailddefnyddiadwy Sarah Callaway yn chwalu tabws

A person wearing glasses

Description automatically generated with low confidence

Ym mis Mawrth 2016, datblygodd Sarah Callaway a Mike Pitman y syniad ar gyfer House of Callaway tra'r oeddent yn astudio ym Mhrifysgol De Cymru.

Ar ôl profi llid y croen o ddefnyddio cynhyrchion mislif tafladwy a dysgu am eu heffaith ddinistriol ar yr amgylchedd, penderfynodd Sarah lansio busnes yn gwneud padiau mislif brethyn y gellir eu hailddefnyddio.

O'u defnyddio'n allanol, daw'r padiau mewn amrywiaeth o siapiau a meintiau. Unwaith y cânt eu defnyddio, cânt eu rinsio a'u taflu yn y golch i'w defnyddio eto. Wedi'u dylunio a'u cynhyrchu yng Nghymru gan Sarah, mae'r padiau'n defnyddio ffabrigau sydd wedi’u cyrchu yn y DU.

Dechrau o’r dechrau

Yn ystod y misoedd wrth iddynt baratoi i lansio’r busnes, cawsant gefnogaeth sylweddol gan Syniadau Mawr Cymru, rhan o Wasanaeth Entrepreneuriaeth Llywodraeth Cymru sy’n helpu pobl rhwng 5 a 25 oed i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd.

Yn benodol, roedd Sarah a Mike yn gwerthfawrogi cael cymorth un i un gan gynghorydd Syniadau Mawr Cymru.

 

“Fe wnaethom ni sefydlu’r busnes tra’n cydbwyso ein hastudiaethau prifysgol, felly roedd angen cymorth a chyngor ymarferol arnom. Siaradodd ein cynghorydd â ni am bob agwedd ar sefydlu busnes, o farchnata i dalu trethi,” meddai Sarah.

Buont hefyd yn bresennol mewn cyfres o weithdai ar gyfer entrepreneuriaid ifanc o dan arweiniad Syniadau Mawr Cymru.

“Roedd yn wych bod o gwmpas pobl eraill oedd yn dechrau o’r dechrau,” dywed Sarah. “Er bod pawb yn gwneud pethau hollol wahanol, fe fyddem ni’n trafod ein heriau ac yn dod o hyd i ddatrysiadau gyda’n gilydd.

“Rwy’n dal mewn cysylltiad â llawer ohonyn nhw, roedd hi mor bwysig bod yn rhan o’r gymuned honno o’r dechrau.”

O gamdriniaeth i nerth

Fel perchennog busnes newydd, roedd Sarah yn disgwyl gwaith caled – ond nid oedd hi’n disgwyl cael ei cham-drin.

“Anfonodd pobl negeseuon preifat ataf yn ein galw ni'n 'ffiaidd' ac yn 'fewnfridwyr budr', dim ond oherwydd ein bod yn gwneud padiau y gellir eu hailddefnyddio,” meddai Sarah.

“Byddai pob neges Facebook yn derbyn rhwng10 a 15 sylw cas. Roeddem ni yn y Daily Mail oherwydd yr holl gamdriniaeth a gawsom. Dim ond ceisio dechrau busnes yr oeddem ni - roedd yn ysgytwol.”

Ond ar anterth y cam-drin, derbyniodd Sarah nodyn o anogaeth.

“Roedd mor anhygoel oherwydd doeddwn i erioed wedi cwrdd â'r fenyw hon - ond roedd hi wrth ei bodd â'r hyn roeddwn i'n ei wneud. Rwy’n dal i ddarllen y llythyr weithiau ac nid yw byth yn methu â rhoi nerth i mi,” meddai Sarah.

Text, letter

Description automatically generated

Capsiwn: Cerdyn gan gefnogwr, a dderbyniwyd ar ôl i’r hanes am y cam-drin gael sylw mewn papurau cenedlaethol.

Beth sydd wedi digwydd ers 2016?

Yn 2017 a 2019, bu Sarah yn arddangos ei chynnyrch yn Dathlu Syniadau Mawr, digwyddiad sy’n dod ag entrepreneuriaid o bob rhan o Gymru ynghyd i hyrwyddo busnesau newydd.

Ym mis Mehefin 2020, dechreuodd Sarah flog o’r enw Stories of a Millennial lle mae hi’n ysgrifennu am bynciau fel y mislif, ac iechyd a lles merched. Ar y wefan, mae hi'n mynd i'r afael â phrofiadau personol - fel dogfennu ei phrawf ceg y groth cyntaf - i frwydro yn erbyn tabŵs o amgylch cyrff menywod a rhoi cyngor gonest a hygyrch.

“Rwyf wedi sylweddoli bod llawer mwy i fusnes nag arian i mewn, arian allan,” eglura Sarah. “Gall busnes helpu i newid meddyliau; gall herio sut mae pobl yn gweld eu cyrff. Rydw i wastad wedi sefyll yn gadarn yn fy nghredoau ac rydw i’n falch o’r hyn rydw i wedi’i greu.”

Dyfodol House of Callaway

Dros y blynyddoedd, mae Sarah wedi datblygu sylfaen cwsmeriaid cryf sy'n dod yn ôl am fwy o hyd.

“Mae gen i gwsmeriaid o bob rhan o’r DU, yn ogystal â thramor,” meddai Sarah. “Fe wnaeth rhai hyd yn oed ddarganfod fy nghynnyrch trwy’r straeon tabloid am y gamdriniaeth, felly dyna amlinell arian i’r cwmwl du hwnnw.”

Yn ddiweddar, mae'r diwydiant gwneud â llaw wedi cael ei daro gan yr argyfwng costau byw, yn ogystal â chost gynyddol deunyddiau. Er mwyn helpu i hyrwyddo House of Callaway i gynulleidfaoedd newydd, mae Sarah wedi bod yn gwneud cysylltiadau â brandiau o'r un anian ac yn datblygu tactegau marchnata cysylltiedig, megis adolygu eu cynhyrchion neu wasanaethau.

Heddiw, mae Sarah hefyd yn gweithio'n llawn amser mewn swyddfa - gan brofi ei bod hi'n bosibl cynnal busnes llwyddiannus heb roi'r gorau i'ch swydd bob dydd.