Mae Dathlu Syniadau Mawr yn ŵyl sy’n llawn ysbrydoliaeth greadigol ac arloesol! Dyma gyfle i chi archwilio sgiliau newydd a dysgu am sut i fagu dull entrepreneuraidd o feddwl - p’un a ydych chi’n ystyried bod yn fos arnoch chi’ch hun un diwrnod neu heb hyd yn oed meddwl amdano fe eto. Rydym ni eisiau rhoi’r cyfle i chi ddarganfod sut i ddatgloi’r potensial uchelgeisiol sydd tu fewn i chi!
Mae’r digwyddia dyn cael ei gefnogi gan nifer o gyrff fel Admiral, NatWest a’r Gweilch, a fydd yno ar y diwrnod hefyd i gynnig cipolwg proffesiynol a gwybodaeth werthfawr am ddysgu am yr hanfodion busnes hynny a datblygu agwedd entrepreneuraidd ym ma lwybr gyrfa bynnag a ddewiswch.
Mae gennym ni rai siaradwyr anhygoel hefyd, ynghyd â gweithdai rhyngweithiol y cewch chi gymryd rhan ynddyn nhw. Dyma gyfle ardderchog i chi rannu’ch syniadau, gofyn cwestiynau a chael cefnogaeth gan entrepreneuriaid ifanc ysbrydoledig, Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru ac arbenigwyr diwydiant.
Byddwch yn Feiddgar, Byddwch yn Ddewr a Byddwch yn Fòs arnoch chi’ch hun!
Dylech chi fynychu’r digwyddiad hwn os ydych chi:
- Rhwng 16 a 25 oed
- Eisoes yn entrepreneur ifanc ac eisiau’r cyfle i arddangos eich hun
- Yn ymddiddori mewn entrepreneuriaeth fel opsiwn gyrfa
- Heb unrhyw syniad beth rydych chi eisiau ei wneud yn y dyfodol
- Yn rhan o dîm menter mewn ysgol, coleg, prifysgol neu grŵp cymunedol
Mae gan bawb y potensial am fawredd – Dechreuwch eich taith chi gyda Dathlu Syniadau Mawr!
Drwy gymryd rhan ar y diwrnod, byddwch chi’n:
- Cysylltu ag entrepreneuriaid ifanc, Modelau Rôl, arbenigwyr diwydiant, yn ogystal â phobl ifanc frwdfrydig o’r un anian.
- Darganfod eich potensial entrepreneuraidd
- Dod oddi yno gydag angerdd a phenderfyniad i roi cynnig ar bethau newydd
- Cael cefnogaeth ac arweiniad am sut i droi’ch syniadau yn realiti
- Dysgu i fod yn hyderus, yn ddi-ofn ac yn oportiwnistig!
Bydd y Digwyddiad Dathlu Syniadau Mawr nesaf yn Stadiwm Abertawe ar 27 Mawrth 2019, 11am - 3:30pm
Cofiwch gofrestru gan fod lleoedd yn brin! Gwnewch yn siŵr ein bod yn eich gweld yno!
NODDWR CYSYLLTIOL - NatWest Yn NatWest Cymru, rydym yn annog diwylliant sy'n fwy entrepreneuraidd. O'r ystafell ddosbarth i'r ystafell fwrdd, rydym yn ysbrydoli a galluogi menter ar bob cam o'r daith. Rydym yn gwybod y gall rhedeg busnes fod yn gyffrous a heriol. Rydym yn deall bod entrepreneuriaid a busnesau angen y cyfuniad cywir o gefnogaeth, cyngor a chyllid i lwyddo. Dyna pam yr ydym yn darparu ystod eang o wasanaethau ar gyfer busnesau o bob siâp a maint, ym mhob sector o'r economi. |
|
Rydym yn hynod falch i gefnogi Dathlu Syniadau Mawr Cymru ac i annog entrepreneuriaid dewr a beiddgar y dyfodol. Ers ei lansiad yn ei bencadlys yng Nghaerdydd yn 1993 mae Admiral wedi tyfu o'i gychwyn bychan i fod yn un o ddarparwyr yswiriant modur mwyaf yn y DU. Mae gennym hefyd weithrediadau o amgylch y byd. Caiff ein dull o weithredu ei lywio gan wasanaeth cwsmer ac arloesedd, a'i hyrwyddo gan waith caled a galluoedd cyfunol ein gweithlu talentog |
|
Pwy ydym ni? Mae Ospreys in the Community yn elusen gofrestredig sy’n gweithio’n agos mewn partneriaeth gyda Rygbi Ospreys. Er yn rhannu perthynas gadarn ac yn rhan allweddol o Strategaeth Osprey, mae Ospreys in the Community yn gweithredu’n annibynnol i’r sefydliad rygbi proffesiynol.
Ein prif amcan yw defnyddio pŵer chwaraeon a brand yr Ospreys i roi grym i bobl oddi fewn i Ospreylia i’w galluogi i wneud dewisiadau bywyd positif. Bydd Ospreys in the Community yn chwarae rhan bwysig yng nghyswllt gwella bywydau llawer o bobl waeth beth fo’u hoedran, gallu neu ryw.
Bwriadwn wella bywydau trwy weithio mewn partneriaeth gyda mudiadau eraill i greu ystod eang o raglenni arloesol oddi fewn i bedwar Thema Strategol; Addysg, Iechyd, Chwaraeon a Chynhwysiad.
Yn 2017/18 gweithiodd Ospreys in the Community yn agos gyda dros 46,000 o bobl yn eu cymunedau, gan ddod yn sefydliad sefydledig sy’n darparu rhaglenni cynaliadwy a phleserus sy’n cael effaith positif ar fywydau'r Ospreylians.
‘Bydd Ospreys in the Community yn gweithio i gefnogi’r Ospreylians er mwyn i’r Ospreylians yn ein cefnogi ni. |
|