Deall entrepreneuriaeth – Model ACPT

Nid yw Entrepreneuriaeth yn rhywbeth arbennig sy’n eiddo i ychydig o bobl yn unig.  Ffordd o feddwl yw Entrepreneuriaeth, ac mae modd ei feithrin.

Cyflwynwyd model ACPT i ganolbwyntio ar yr agweddau, y sgiliau a'r ymddygiad sydd eu hangen i alluogi pobl ifanc i fodloni anghenion busnes yn yr 21ain ganrif.

Mewn ymchwil cychwynnol a wnaed gan Lywodraeth Cymru, nodwyd y nodweddion cyffredinol y mae entrepreneuriaid yn eu harddangos. Roedd hyn yn ystyried y tasgau busnes bob dydd a sgiliau sylfaenol ac agweddau'r entrepreneur.

Mae’r model yn rhannu’r nodweddion hyn yn bedwar dimensiwn allweddol, o dan yr acronym ACPT.  Mae hyn yn cwmpasu agweddau pwysicaf ymddygiad entrepreneuraidd.

Agwedd

Os wyt ti eisiau llwyddo mewn unrhyw beth mewn bywyd, rhaid i ti feddu ar yr agwedd gywir. Bwriad y dimensiwn hwn yw deall dy hun, dy gymhelliant, a sut i gyflawni dy amcanion

  • Hunan ymwybyddiaeth, hunangred, a hunanhyder
  • Cymhelliant
  • Dyhead
  • Penderfyniad
  • Cystadleugarwch

Creadigrwydd

Nid oes angen bod yn athrylith i fod yn greadigol. Mae’n ymwneud â’r gallu i fathu syniadau newydd, datrys problemau a bod yn effro i gyfleoedd newydd.

  • Datrys problemau 
  • Meddwl dargyfeiriol / cynhyrchu syniadau 
  • Dod o hyd i gyfleoedd, a’u creu
  • Arloesedd

Perthnasau

Mae’n ymwneud â phobl, y gallu i gyfathrebu’n effeithiol, mynegi dy syniadau a dy safbwyntiau di, gwerthfawrogi safbwyntiau eraill, a chyd-weithio gydag eraill

  • Gweithio gydag eraill
  • Rheoli sefyllfaoedd anodd
  • Trafod, darbwyllo a dylanwadu
  • Cyflwyno 
  • Cyfathrebu

Trefniadaeth

Gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, a chyflawni dy amcanion drwy gynllunio a rheoli sefyllfaoedd, adnoddau a risg

  • Cynllunio
  • Rheoli adnoddau
  • Gwneud penderfyniadau
  • Ymchwil a deall yr amgylchedd
  • Rheoli risg
  • Gweledigaeth a gosod targedau

Maen nhw’n tynnu sylw at y sgiliau a'r agweddau sydd eu hangen ar bobl ifanc i lwyddo, ac mae entrepreneuriaid Cymru yn dangos sut mae'r rhain yn cael eu defnyddio yn eu bywydau bob dydd.

Mae'r sgiliau entrepreneuraidd hyn yn berthnasol i bob dewisiadau o ran gyrfa gan eu bod yn ymwneud â datblygu agwedd gadarnhaol a rhagweithiol i beth bynnag yr ydych yn ei wneud mewn bywyd, boed yn sefydlu busnes, yn gweithio i rywun arall neu’n gwneud rhywbeth yn y gymuned.

Mae'n ymwneud â chael yr hyder i feddwl am syniadau, y fenter a'r cymhelliant i’w gweithredu. Mae’n galluogi pobl ifanc i fod yn gadarnhaol, yn rhagweithiol ac yn llwyddiannus yn eu hagwedd tuag at fywyd a gwaith.