Ffurflenni gwerthuso - Syniadau Mawr Cymru

Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol y byddwch chi’n ei ddarparu i Syniadau Mawr Cymru. Bydd y data’n cael ei brosesu yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut y byddwn yn prosesu eich data personol yn deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw. Neilltuwch funud neu ddau i ymgyfarwyddo â’n harferion preifatrwydd.

 

Pan fyddwch chi’n cwblhau ffurflen werthuso Syniadau Mawr Cymru, rydym yn casglu eich data er mwyn i ni allu cysylltu â chi os ydych chi’n nodi eich bod am dderbyn rhagor o wybodaeth neu gymorth ynghylch entrepreneuriaeth. Mae timau ymchwil sydd wedi’u contractio gan Lywodraeth Cymru yn defnyddio ffurflenni gwerthuso i ddarparu adroddiadau sy’n helpu i lywio a datblygu’r gwasanaeth yn y dyfodol. Ni ddefnyddir eich gwybodaeth bersonol yn yr adroddiad a bydd yn cael ei dileu gan y tîm ymchwil ar ôl cwblhau’r adroddiad.

Nid oes yn rhaid i chi lenwi ffurflen werthuso.

Rydym yn prosesu eich data yn unol â’r awdurdod swyddogol sydd wedi’i freinio yn Llywodraeth Cymru i gefnogi entrepreneuriaeth ieuenctid yn unol â’r strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb: Y Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Bydd eich data yn cael ei brosesu gan Lywodraeth Cymru a’r darparwyr gwasanaethau canlynol:

  • Prospects a Cazbah sy’n cynnal digwyddiadau a gweithdai ar ran Syniadau Mawr Cymru
  • Antur Teifi a Busnes mewn Ffocws sy’n cynnal bẃt-camp, digwyddiadau, gweithdai a darparu cymorth busnes cyn-dechrau ar ran Busnes Cymru.
  • Cyrff ymchwil a benodir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’u contractio i gynnal ymchwil ar ran Llywodraeth Cymru

Bydd eich data’n cael ei gadw am gyfnod y rhaglen Syniadau Mawr Cymru ynghyd â 10 mlynedd at ddibenion archwilio.

Newidiadau i’r polisi hwn

Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau yn cael eu gosod yma ac yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith. Pan fydd newidiadau yn digwydd, i’r polisi hwn, byddwn yn cysylltu â chi ar y cyfeiriad e-bost rydym wedi’i gofnodi yn eich cyfrif er mwyn eich galluogi i adolygu’r fersiwn newydd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi’r hawl:

-              I gael mynediad i’r data personol sydd gennym amdanoch;

-              I ofyn i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;

-              (O dan amgylchiadau penodol) yr hawl i wrthod neu gyfyngu ar brosesu;

-              (O dan amgylchiadau penodol) yr hawl i ‘ddileu’ eich data;

-              Cofnodi cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

Os hoffech gysylltu â ni i drafod cwyn neu bryder sydd gennych am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn prosesu eich data personol, neu am ofyn i ni ddileu eich data, gallwch ofyn am gael siarad â’r Swyddog Diogelu Data drwy ffonio Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu drwy gysylltu â ni ar-lein yn https://bigideas.wales/contact-us.  Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Os oes gennych chi bryderon neu gŵyn am sut mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â’ch data dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Customer Contact Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Cheshire

SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.gov.uk

Am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth

Cyfeiriad post:

Swyddog Diogelu Data,

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

CAERDYDD

CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost

DataProtectionOfficer@llyw.cymru

 

Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn galluogi’r cyhoedd i ofyn am gael gweld gwybodaeth sy’n cael ei chadw gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall y wybodaeth rydych chi’n ei darparu i ni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddem yn ymgynghori â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o’r fath.