Gwybodaeth am Syniadau Mawr Cymru

Mae ymgyrch Syniadau Mawr Cymru yma i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru ac ysgogi pobl ifanc 25 oed neu iau i ddatblygu sgiliau menter beth bynnag fo'u dewis gyrfa. 

Mae ein gwefan yn darparu cyflwyniad i fusnes ar gyfer cynulleidfaoedd iau ac mae’n cynnwys dolenni defnyddiol at ein prif safle busnescymru.llyw.cymru i helpu i feithrin gwybodaeth busnes; gydag offer, gwybodaeth a chymorth i'r rheiny sydd eisiau cychwyn busnes.

25 oed neu iau? Gall Syniadau Mawr Cymru dy helpu i:

 

Cofrestrwch yma i gael eich canllaw cychwyn am ddim a mwy

  • Gael ysbrydoliaeth am yr hyn y gallet fod eisiau ei wneud yn y dyfodol
  • Canfod ychydig mwy am sut brofiad fyddai cychwyn dy fusnes dy hun
  • Clywed gan entrepreneuriaid eraill yng Nghymru (sy'n rhannu eu storïau a chynghorion gwych!)
  • Canfod rhagor amdanat dy hun gyda chanllawiau a hunanasesiadau buddiol
  • Dy helpu di i gynhyrchu syniadau a'u hystyried i'r eithaf
  • Cymryd rhan mewn menter a manteisio ar y cyfleoedd a'r gweithdai
  • Dysgu am destunau busnes allweddol a dolenni i wella dy wybodaeth
  • Canfod beth sy'n digwydd yn dy goleg neu dy brifysgol a sut i gymryd rhan yn hynny
  • Canfod beth yw “cymorth busnes” a phwy allai dy helpu
  • Ymuno â phobl ifanc tebyg ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol  FacebookTwitter and Instagram

Syniadau Mawr Cymru - ar gyfer Partneriaid:

Rydym yma i helpu partneriaid hefyd - athrawon, tiwtoriaid, arweinwyr ieuenctid a sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu sgiliau menter.

  • Gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael â Syniadau Mawr Cymru ar gyfer ein partneriaid;
  • Darparu offer ac adnoddau i gefnogi'r cwricwlwm a helpu athrawon a thiwtoriaid ddarparu addysg entrepreneuriaeth yng Nghymru;
  • Darparu gwybodaeth am y prosiectau sy’n cefnogi YES a sut i gymryd rhan
  • Gwneud cysylltiadau priodol ar gyfer pobl ifanc rhwng y gweithgaredd a'r gefnogaeth a ddarperir gan bawb o dan Gynllun Gweithredu Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid (IE);
  • Cael gwybod am ystod o bartneriaid a'r hyn y gallant ei gynnig i helpu.

Mae'n ymwneud â dy helpu di i fentro ac mae'n ymwneud â helpu ein partneriaid i ddod ynghyd i dy gefnogi di!  Ewch i'n gwefan partner yma