Hysbysiad Preifatrwydd Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y Grant Sefydlu Gwarant i Bobl Ifanc a chael cymorth gan Syniadau Mawr Cymru neu Busnes Cymru, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth gennych chi.  Bydd yr wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch chi yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth am eich busnes. Mae cael yr wybodaeth bersonol hon yn angenrheidiol er mwyn inni asesu eich cymhwysedd ar gyfer y Grant ac, os bydd yn llwyddiannus, er mwyn cael gafael ar gyllid, gwasanaethau, cyngor a gwybodaeth.

Os ydych chi’n gweithredu fel gwarantwr ar gyfer ymgeisydd, dim ond er mwyn prosesu’r taliad rydych chi wedi cytuno i’w dderbyn ar ran yr ymgeisydd y byddwn yn defnyddio eich data personol. Bydd eich data’n cael ei ddefnyddio i gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy.

Sail Gyfreithlon Prosesu

Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli unrhyw ddata personol rydych chi’n ei roi yng nghyswllt eich cais am grant. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei phrosesu fel rhan o’n tasg gyhoeddus (hy defnyddio ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) a bydd yn ein helpu ni i asesu a ydych chi’n gymwys i gael cyllid. Mae data Categori Arbennig sy’n cael ei brosesu yn cael ei wneud er budd y cyhoedd yn sylweddol o ddarparu cymorth ariannol i bobl ifanc sy’n dechrau busnes.

Atal Twyll

Cyn inni roi cyllid grant i chi, byddwn yn cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll a gwyngalchu arian, ac i ddilysu eich manylion adnabod. Er mwyn cynnal y gwiriadau hyn, mae’n rhaid inni brosesu data personol amdanoch chi drwy asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu’r cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu gallwn stopio darparu cyllid grant rydych chi eisoes yn ei gael.

Bydd cofnod o unrhyw risg gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a allai olygu y bydd sefydliadau eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.

Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn ysgrifennu atoch gydag amlinelliad o’r rhesymau yn egluro pam a sut y gallwch wneud cais arall am y cyllid (os byddwch yn dymuno gwneud hynny).

Mathau o Wybodaeth Bersonol

Mae’r wybodaeth a gesglir yn cynnwys enw, cyfeiriad, gwybodaeth gyswllt a gwybodaeth am eich busnes.   I dderbyn Grant Sefydlu Gwarant i Bobl Ifanc, rhaid inni hefyd brosesu gwybodaeth Categori Arbennig am eich ethnigrwydd neu anabledd er mwyn asesu a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun ai peidio.

Bydd angen enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, manylion banc a llofnod gwarantwyr.

Pwy fydd yn cael gweld eich data

Bydd yr wybodaeth sy’n cael ei chasglu ar gael drwy system weinyddwyr technegol a fydd yn cefnogi’r system T.G.  Ni fydd gweinyddwyr technegol yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd. 

Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu at ddibenion cymorth Syniadau Mawr Cymru a Busnes Cymru yn cael ei rhannu â’r sefydliadau canlynol at y dibenion a restrir isod:

  • Gan gontractwyr sy’n darparu gwasanaethau Syniadau Mawr Cymru a Busnes Cymru sy’n darparu cefnogaeth i fuddiolwyr;
  • Gan sefydliadau ymchwil gymdeithasol cymeradwy sy’n cynnal gwaith ymchwil, dadansoddi neu fonitro cyfle cyfartal ar gyfer gwasanaeth Syniadau Mawr Cymru a Busnes Cymru;
  • Y Comisiwn Ewropeaidd a Thîm Archwilio Cronfeydd Ewropeaidd a fydd yn cymryd samplau o’n data i sicrhau ein bod yn dilyn y prosesau cywir.

Beth rydyn ni’n ei wneud â’ch data

  • Darparu cymorth ariannol a chymorth busnes.
  • Monitro ac adrodd ar nifer yr unigolion a’r mentrau sy’n cymryd rhan mewn prosiectau a nifer y bobl o wahanol grwpiau sy’n cael eu cefnogi (ee gwahanol oedrannau, rhyw ac ethnigrwydd).  
  • Sylwch mai dim ond sampl o unigolion a/neu fentrau y bydd sefydliadau ymchwil/gwerthuswyr yn cysylltu â nhw. Os cysylltir â chi i gymryd rhan mewn unrhyw ymchwil/gwerthusiad ynglŷn â’ch profiad o’r prosiect, bydd pwrpas y cyfweliad neu’r arolwg yn cael ei egluro i chi a byddwch yn cael dewis cymryd rhan ai peidio. Dim ond ar gyfer ymchwil cymeradwy y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio a byddan nhw’n cael eu dileu pan fydd yr ymchwil gymeradwy hwn wedi’i gwblhau.

Am ba hyd y bydd eich manylion yn cael eu cadw
Fel rhan o’ch cyllid, mae’n rhaid inni gadw eich data personol am o leiaf 10 mlynedd ar ôl i’r prosiect ddod i ben ac ar ôl hynny bydd yn cael ei ddinistrio’n ddiogel. Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich gwybodaeth bersonol a roddir yn y cais hwnnw’n cael ei chadw am gyfnod o 12 mis yn unol â pholisi cadw gwybodaeth Llywodraeth Cymru.
 

Eich hawliau O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl i wneud y canlynol:

  • cael mynediad at y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch;
  • mynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hwnnw;
  • gwrthwynebu neu atal prosesu (mewn amgylchiadau penodol);
  • bod eich data gael ei ‘ddileu’ (mewn amgylchiadau penodol);
  • rhoi cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113
Gwefan:
www.ico.org.uk
I gael cymorth gydag unrhyw un o’r hawliau uchod, cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen i gysylltu â ni https://businesswales.gov.wales/cy/cysylltwch-a-ni

Deddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth Chi
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i'r cyhoedd weld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae’n bosib y bydd aelod arall o’r cyhoedd yn gwneud cais rhyddid gwybodaeth am eich data. Byddem yn cysylltu â chi i glywed eich barn cyn ymateb i gais o’r fath.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth

Cyfeiriad post:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales