“Mae pobl yn meddwl eu bod nhw’n blant drwg”

Model Rol Syniadau Mawr Cymru yn canfod llawenydd ac ysbrydoliaeth mewn Uned Cyfeirio Disgyblion

Pan wahoddwyd Andrew Davies, Model Rôl Syniadau Mawr Cymru, i siarad â phobl ifanc yn Uned Cyfeirio Disgyblion Ceredigion, nid oedd yn siŵr beth i’w ddisgwyl. Ond, yn y diwedd, cafodd y sesiwn effaith drawsnewidiol ar y myfyrwyr a'r Model Rôl yr un fath.

Mae pob aelod o’r teulu hwn yn cael sylw haeddiannol

Sefydlir Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCD) ar gyfer plant o dan 16 oed nad ydynt yn addas ar gyfer addysg prif ffrwd. Mae yna lawer o resymau y mae plant yn mynychu'r canolfannau, o anghenion ychwanegol nad ydynt yn cael eu diwallu yn yr ysgol i anawsterau gartref, profiadau trawmatig ac ymddygiad heriol.

“Rydym yn helpu’r plant i oresgyn eu trawma ac yn cynnig cymorth un i un i’w helpu i adennill eu hyder a rheoli eu hymddygiad fel y gallant fynd yn ôl i’r ysgol neu goleg,” meddai Rob Evans, Gweithiwr Cefnogi Addysg yng Nghanolfan Aeron (ysgol UCD yn Aberaeron).

“Bob bore, rydym ni'n dod at ein gilydd i gael paned o de a thost. Dyna pryd y gallaf weld a oes unrhyw un yn cael trafferth - efallai eu bod wedi cael eu cadw i fyny gan frodyr a chwiorydd swnllyd ac angen ychydig oriau o gwsg, neu efallai bod rhywbeth yn eu poeni. Rwy'n ceisio dod o hyd i ateb, weithiau'n cyfnewid gwers ffurfiol am sgiliau bywyd fel coginio nes eu bod yn teimlo'n ddigynnwrf.

“Os yw'r plant yn dweud rhywbeth cas wrthym ni, rydym ni'n deall eu bod nhw'n ceisio cyfathrebu mater. Nid ydym byth yn dal dig - mae pob dydd yn llechen lân. Rydym yn falch o fod yn deulu lle mae pawb yn cael sylw haeddiannol.”

Mae staff yr UCD yn gweithio’n agos gyda Gyrfa Cymru, yn ogystal ag ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau cwnsela a chyflogwyr lleol i gefnogi’r plant i gyflawni eu nodau, boed yn ennill TGAU neu’n dod o hyd i waith.

Ym mis Mawrth 2022, gofynnodd UCD Ceredigion am Fodel Rôl Syniadau Mawr Cymru i gyflwyno sesiynau yng Nghanolfan Aeron a Chanolfan yr Eos (ysgol UCD yn Aberystwyth) trwy Gyrfa Cymru, a dewiswyd Andrew Davies.

Tanio’r sbarc

Yn gyn ffotograffydd y Daily Mail, fe ddechreuodd Andrew Davies ei fusnes cyntaf yn 10 oed, yn glanhau ffenestri. Yn 2014, cafodd Andrew strôc a dywedwyd wrtho na fyddai byth yn sefyll na cherdded eto. Ers hynny, mae wedi gwella’n llwyr ac mae bellach yn gwirfoddoli ei amser fel Model Rôl Syniadau Mawr Cymru, gan gysylltu â phobl ifanc ledled Cymru

I ddisgyblion Canolfan Aeron, mae stori rymus Andrew am wytnwch yn taro deuddeg.

“Agorodd Andrew eu llygaid i’r posibilrwydd o ddechrau busnes – ond yn fwy na hynny, fe wnaeth drin pob disgybl â gofal, gan ddysgu eu henwau a sgwrsio â nhw am eu diddordebau,” eglura Rob.

“Nid ydw i erioed wedi eu gweld nhw’n ymgysylltu cymaint – roedd yn anhygoel. Dangosodd Andrew nad oes rhaid i chi gael y graddau gorau na gradd prifysgol i wneud llwyddiant ohonoch chi'ch hun - dim ond hunan gred, moeseg gwaith da a syniad gwych.

“Ni allai un bachgen yn arbennig, Gareth*, stopio siarad am ei syniad i ddechrau busnes rhentu byrddau syrffio ar draeth lleol. Mae darllen ac ysgrifennu yn anodd i Gareth, felly roedd yn arbennig ei weld yn ysgrifennu ei syniadau yn fanwl. Dim ond 13 oed yw e, ond roeddwn i’n gallu gweld bod Andrew wedi cynnau sbarc ynddo.”

Dysgu mwy na hanfodion busnes

Dros ddau ddiwrnod, gweithiodd Andrew gyda grwpiau yng Nghanolfan Aeron a Chanolfan yr Eos.

“Yn y gweithdy buom yn ymdrin â hanfodion cynllunio busnes, ‘y beth, y ble a’r pam’, ac anogais y plant i ddweud wrthyf beth maent yn hoffi ei wneud, i'w helpu i weld y sgiliau sydd ganddynt eisoes. Roedd y plant yn ffocysu ac yn chwilfrydig iawn – fe wnaethon nhw feddwl am syniadau gwych,” meddai Andrew.

“Dywedais wrthyn nhw, ‘Os oes unrhyw un yn mynd i lwyddo, chi yw e – oherwydd rydych chi wedi bod trwy gymaint yn barod’. Mae gan bob un eu heriau, mae pawb yn methu, ond rhaid i chi godi drachefn a rhoi cynnig arall arni, fel rydw i wedi gwneud.

“Roedd un bachgen, Jack*, yn dawel a thawedog. Soniais ei fod yn edrych fel Ed Sheeran a gofynnais a oedd yn hoffi canu neu ddawnsio. Cododd Jac ei ysgwyddau ond fe wnes i ddal ati i geisio ymgysylltu ag ef dros y ddau ddiwrnod.

“Wrth i mi adael, rhedodd Jac ar fy ôl er mwyn canu a dawnsio ychydig – cafodd ei weithiwr achos ei synnu gan hynny! Dywedodd mai anaml iawn y mae'n siarad, felly rwy'n gwybod i mi ymgysylltu â fe rywsut.

“Gadewais yn teimlo’n emosiynol iawn – am le arbennig!”

Nid dyna’r diwedd...

Er mai dim ond 13 oed yw Gareth, mae Syniadau Mawr Cymru yn gweithio gyda Chanolfan Aeron i'w helpu i ddatblygu ei syniad busnes. Mae wedi siarad â chynghorydd busnes ac, ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar ei gynllun busnes ac yn gobeithio mynychu Bootcamp to Business pan fydd yn hŷn.

Ar ôl llwyddiant ymweliad Andrew, mae Rob ac Andrew yn awyddus i drefnu sesiwn arall gyda'r myfyrwyr.

“Fe newidiodd y profiad fy mywyd,” medd Andrew. “Rydw i eisiau i bawb wybod nad yw'r plant hyn yn ‘ddrwg’ – mae’r system wedi eu gadael nhw i lawr, ond mae ganddyn nhw gymaint i'w gynnig. Rwy’n credu bod gan bob un ohonynt y potensial i fod yn entrepreneuriaid.”

 

*mae’r enwau wedi eu newid er mwyn gwarchod hunaniaeth y myfyrwyr