Marchnata'r busnes

Group working

Un o elfennau allweddol twf yw cael dy gynnyrch neu wasanaeth o flaen darpar gwsmeriaid newydd. Mae llawer o ffyrdd o farchnata dy nwyddau neu wasanaethau, ac weithiau gall fod yn anodd gwybod pa un sy'n iawn ar gyfer dy fusnes. Does dim dirgelwch ynghylch marchnata. Mae'n ymwneud â chynnyrch da, dod o hyd i ffyrdd o roi gwybod i bobl am y peth - a gwneud yn si?r dy fod yn cyflawni dy addewid.

Agweddau allweddol marchnata:

  • Brand - Gall deall y gwahaniaeth rhwng logo a brand wneud gwahaniaeth mawr i effeithiolrwydd y busnes. Mae popeth yr wyt ti a dy staff yn ei wneud yn effeithio ar dy frand. Gelli ddarganfod mwy am bwysigrwydd brandio ar wefan Busnes Cymru drwy'r canllaw ar Brandio - gallai gynnig rhai syniadau diddorol a allai fod yn werthfawr ar gyfer dy fusnes.
  • Hysbysebu - Pwy sydd angen hysbysebu? Yr ateb yw - y rhan fwyaf o fusnesau.  Mae hysbysebu’n fwy nag ymgyrchoedd hysbysebu enfawr, gall fod mor syml â rhoi taflenni drwy flychau llythyrau neu osod nodyn am yr hyn rwyt ti’n ei gynnig yn dy siop bapur newydd neu Swyddfa'r Post gerllaw. Mae hysbysebu’n ffordd wych o ennyn diddordeb yn dy fusnes, cynyddu gwerthiant, cyflwyno cynnyrch newydd, denu cwsmeriaid newydd ac i roi sylw i dy frand/ delwedd. Darllena'r canllaw ar wefan Busnes Cymru ar Paratoi i Werthu (gwefan Busnes Cymru).
  • DIW - Y ffordd fwyaf cyffredin o gael stori yn dy bapur lleol yw drwy ysgrifennu Datganiad i'r Wasg – cadwa o’n fyr, bachog, llawn gwybodaeth ac wedi’i ysgrifennu mewn iaith ac arddull papur newydd. Gall cael dy enw yn y papur lleol am y rheswm cywir fod yn wych ar gyfer dy fusnes. Mae'n codi dy broffil ac yn gwneud darpar gwsmeriaid yn fwy tebygol o ddod atat ti nac at rywun arall - dim ond oherwydd eu bod wedi clywed amdanat neu wedi cael eu hatgoffa amdanat. Gan eu bod yn cael llawer o’r rhain bob dydd, mae'n werth gwneud rhywfaint o ymdrech wrth ei lunio fel ei fod gystal ag y gall fod.  Gelli ddod o hyd i rywfaint o wybodaeth ddefnyddiol ar wefan Busnes Cymru am ysgrifennu Datganiad i'r Wasg effeithiol (gwefan Busnes Cymru - Saesneg yn unig).
  • Y We/ Cyfryngau Cymdeithasol - Mae mwy a mwy o fusnesau bach yn sefydlu gwefannau wrth i fwy o bobl droi at y we am wybodaeth, ac felly mae gwefan yn rhan hanfodol o'r strategaeth farchnata.  Mae nifer o ganllawiau ar wefan Busnes Cymru ar Y We a TG (gwefan Busnes Cymru) sydd yn cynnwys ychydig o syniadau ar sut i greu'r wefan berffaith.  Mae sefydlu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol hefyd yn ffordd newydd o gysylltu a chyfathrebu gyda chwsmeriaid. Ond mae'n bwysig iawn i ddewis y rhai sy'n berthnasol i dy fusnes. Gelli ddod o hyd i rhai canllawiau defnyddiol ar wefan Busnes Cymru ar gyfer defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol (gwefan Busnes Cymru) i’w mantais lawn.
  • Marchnata ar gyllideb fach – Beth am ddefnyddio taflenni, maent yn rhad ac yn hawdd i’w cynhyrchu a gellir eu defnyddio ar droed o ddrws i ddrws, fel hysbysebion mewn siopau lleol a Swyddfeydd Post. Ar wefan Busnes Cymru, gelli ddarganfod mwy am sut i gael mwy o dy gyllideb farchnata (gwefan Busnes Cymru - Saesneg yn unig).