Be nesa ar ôl graddio?
Llongyfarchiadau, rwyt wedi graddio! Rwyt wedi ennill gradd, a nawr yn barod i gymryd y cam nesaf a gwireddu dy syniad busnes. Os wyt yn ystyried cychwyn dy fusnes dy hun, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Mae llawer o raddedigion yn awyddus i fentro, a gyda’r gefnogaeth gywir, gall dy freuddwydion entrepreneuraidd gael eu gwireddu.
Mae Syniadau Mawr Cymru yma i dy helpu bob cam o’r daith. Dim ots os mai nawr wyt ti’n cychwyn meddwl am redeg dy fusnes dy hun, neu eisoes gyda gweledigaeth, rydym yn darparu cefnogaeth wedi’i hariannu’n llawn, cyngor arbenigol, gweithdai ar-lein, ac adnoddau i dy helpu wrth i ti lansio a thyfu dy fusnes yng Nghymru.
Gall Syniadau Mawr Cymru dy gefnogi, os wyt ti yng Nghymru neu yn dychwelyd yma.
Pam cychwyn busnes ar ôl graddio?
Mae llawer o fanteision mewn cychwyn dy fusnes dy hun ar ôl graddio. Ti fydd yn rheoli dy lwyddiant dy hun, ac mae’n rhoi’r rheolaeth hynny i ti. Mae’n caniatáu i ti ddilyn dy ddiddordeb, a gall rhedeg dy fusnes dy hun roi’r rhyddid i ti greu dy amgylchedd gwaith delfrydol.