Terry Crump
Terry Crump
Crazy 18 Golf
Trosolwg:
Gêm golff gwallgof cludadwy
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

Fe adewais yr ysgol a dechrau gweithio fel prentis yn y gwaith dur yn Corus. Fe weithiais yno am saith mlynedd cyn mynd ati i weithio i amrywiaeth o gwmnïau peirianneg bychain a dechrau gweithio ym maes rheoli peirianyddol.

Fe symudais ymlaen i reoli cynnyrch a gweithio i amrywiaeth o fusnesau gan ganolbwyntio ar larymau tân ac electroneg.

"Fe ddylech ei ystyried yn bendant - hunangyflogaeth yw un o'r dewisiadau gorau erbyn hyn. Chwiliwch am gymorth bob amser, oherwydd mae cymorth ar gael. Peidiwch â bod ofn, yn enwedig pan ydych yn ifanc, oherwydd does gennych ddim i'w golli."

Terry Crump - Crazy 18 Golf

Fe sefydlwyd fy musnes yn 2004, pan gynlluniais gêm golff gwallgof cludadwy. Cwsmeriaid o'r DU sydd ganddon ni yn bennaf, ac rydyn ni'n gwerthu'r rhan fwyaf o'n cynnyrch drwy gatalogau. Ro'n i wastad wedi bod eisiau dechrau fy musnes fy hun, felly bachais ar y cyfle pan gododd.

Rydw i'n cael boddhad o weithio imi fy hun - y broses o newid cynnyrch o fod yn syniad yn eich pen yn rhywbeth a werthir mewn siopau - mae hynny'n rhoi boddhad mawr imi.

Poeni am fethu yw'r her fwyaf - a gorfod gwella eich gwerthiant a'r cwmni. Datblygu'r cynnyrch ei hun oedd yr her ar y dechrau. Erbyn hyn, datblygu'r cwmni drwy werthiant yw'r her.