Liz Williams
Liz’s Kids
Trosolwg:
Dyluniadau casgladwy a chynhyrchu a chreu gwaith celf gwreiddiol
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Sir Ddinbych

Dylunio a gweithgynhyrchu cerameg casgladwy a chreu darnau gwreiddiol o waith celf ar gyfer manwerthu drwy'r rhyngrwyd a siopau o ddeunyddiau ailgylchu yw fy musnes presennol. Rwyf hefyd yn artist ac wedi bod yn gynllunydd mewnol, yn ddyfeisiwr o gynnyrch diogelwch llwyddiannus iawn, ac yn awdur nifer o lyfrau bywgraffyddol, dychmygol ac sy'n seiliedig ar gelf.
 
Gweithiwch ar fagu eich hunanhyder. Trysorwch eich hobïau a'ch diddordebau, gallant fod yn sylfaen i syniad busnes.
Liz Williams - Liz’s Kids
 
Yr hyn sy’n rhoi’r wefr fwyaf i mi am fod yn fos ar fy hun yw fy mod yn gwybod y gallaf ddibynnu ar fy hun i wneud penderfyniadau busnes a’u gweithredu. Rwy’n gallu creu cynnyrch newydd pryd bynnag rwyf eisiau ac mae fy musnes yn gyfan gwbl dan fy rheolaeth. Gallaf newid cyfeiriad ar fyr rybudd os bydd pethau'n mynd o chwith a'r dyddiau hyn rwy’n dilyn fy ngreddf.
 
Roedd fy mlwyddyn gyntaf mewn busnes yn her dysgu, roedd popeth yn newydd ac roedd cymaint i'w ddysgu a llawer o gamgymeriadau i'w gwneud.
 
Rwyf wedi ennill nifer o wobrau dros y blynyddoedd; Dyfeisiwr Benywaidd y Flwyddyn, roeddwn yn Neg Uchaf Dyfeisiwr Benywaidd Prydain 2005, yn Neg Uchaf Dyfeisiwr Benywaidd y Byd, gwobr cydnabyddiaeth arbennig 2006, Dynes Ysbrydoledig y Flwyddyn cylchgrawn SHE 2010, a llawer mwy. 
 
Rwy’n gallu defnyddio'r wybodaeth rwyf wedi’i chronni dros y blynyddoedd i fy helpu dros ac o amgylch rhwystrau sy'n codi. Hoffwn helpu i ddatblygu meddylfryd ymysg pobl ifanc bod hunangyflogaeth yn agored i bawb, a bod yr ystod o syniadau busnes yn ddiddiwedd ac yn hynod amrywiol. Credaf fod arloesi a meddwl yn arloesol yn hanfodol i'n datblygiad ac i ehangu ein meddyliau.
 
Mae gweithio gyda myfyrwyr a gweld eu brwdfrydedd a'u cyfoeth o syniadau drwy'r prosiect 'Syniadau Mawr' yn anrhydedd ac yn wefr.  

Gwefan: https://twitter.com/lizlinkz