Rebecca Leonhardt
Storm Development Ltd
Trosolwg:
Dylunio gwefannau, cynhyrchu fideos a ffotograffiaeth broffesiynol
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Rhanbarth:
Ceredigion

Mae Storm Development yn arbenigo mewn dylunio gwefannau, cynhyrchu fideos a ffotograffiaeth broffesiynol. Rydyn ni'n cynnig gwasanaethau personol a fforddiadwy ar gyfer busnesau newydd, yng Ngheredigion yn bennaf.

"Gwnewch eich ymchwil - a oes galw, bwlch yn y farchnad, neu angen am yr hyn sydd gennych i'w gynnig?"

Rebecca Leonhardt - Storm Development Ltd

 

Wedi imi golli fy swydd pan oeddwn yn 40 oed ar ôl gweithio'n barhaus i nifer o fusnesau rhyngwladol ar lefel uwch ac mewn marchnad sy'n gallu bod yn eithaf di-drugaredd, fe gefais gyfle am y tro cyntaf i redeg fy ymgynghoriaeth gyfathrebu fy hun a dysgu am yr heriau o dan sylw.

Y gwahaniaeth mawr gyda'r busnes sydd gen i nawr yw fy mod i'n cydweithio â fy mhartner personol a busnes sydd â sgiliau ac agwedd sy'n ategu fy rhai i. Rydw i a fy mhartner yn gwbl gytûn bod angen inni fod yn arloesol, yn rhagweithiol ac yn gryf wrth barhau i adeiladu ar y cyd, ac y bydd y cyfan yn talu ar ei ganfed ac yn werth yr ymdrech, er inni sefydlu ein hunain yn ystod dirwasgiad.

Mae gweithio'n galed a llwyddo yn ein hysgogi i ddatblygu ein busnes, yn enwedig o wybod bod cleient yn arbennig o fodlon mai ein hymdrechion ni yn unig sy'n gyfrifol am y llwyddiant.

Rydw i'n credu'n gryf y gall gwaith caled oresgyn unrhyw rwystr. Rydw i wedi dysgu bod rhoi hwb i bobl a'u helpu nhw i wireddu eu potensial yn llawer mwy buddiol yn y tymor hir o'i gymharu â chanolbwyntio ar gael budd personol ac ariannol.

Rydw i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl, drwy ysbrydoli, annog a chefnogi pobl ifanc. Mi fydda i'n siarad yn blwmp ac yn blaen, ond rydw i bob amser yn cynnig ffordd ymlaen yn hytrach na chwalu unrhyw obeithion. Rydw i wedi mentora a chael fy mentora, ac rydw i'n credu bod rhannu profiadau yn gallu bod yn un o'r ffyrdd mwyaf pwerus o ddysgu fel unigolyn ac fel entrepreneur.