Ed Holden
Mr Phormula
Trosolwg:
Bîtbocsiwr/cynhyrchu rap a cherddoriaeth
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Gwynedd

Rydw i wastad wedi bod yn gerddorol, yn cymryd rhan mewn cyngherddau a pherfformiadau drwy gydol fy amser yn yr ysgol, ac yn datblygu fy sgiliau wedi hynny.

"Peidiwch â bod ofn! Ewch amdani. Gwneud synau gyda fy llais yw fy mywoliaeth! Mae hynny'n golygu bod unrhyw beth yn bosibl!"

Ed Holden - Mr Phormula

Erbyn hyn, rydw i'n arbenigo mewn ffurfiau unigryw bîtboscio / rap a chynhyrchu cerddoriaeth.

Rydw i'n ymweld â sefydliadau / lleoliadau addysgol ledled y DU, yn cynnal gweithdai / prosiectau ac yn ymgysylltu cynulleidfaoedd â'r ffurfiau newydd yma o gelfyddyd.

Rydw i hefyd yn mynd ar deithiau ac yn perfformio fy ngherddoriaeth yn rhyngwladol.

Mae defnyddio dwy iaith wedi bod yn ffactor hollbwysig yn llwyddiant fy musnes : yn ffodus, mae bîtbocswyr Cymraeg yn bethau prin, felly doedd neb yn cystadlu yn fy erbyn yn y celf hwn sydd ar dwf! 


Cysylltu gyda Ed