Adam George
InHouse Entertainments
Trosolwg:
Darparwr adloniant mewn digwyddiadau ar gyfer y sector corfforaethol a'r sector preifat
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Abertawe

Darparwr adloniant mewn digwyddiadau ar gyfer y sector corfforaethol a'r sector preifat yw InHouse Entertainment. Maen nhw’n arbenigo mewn atyniadau aer, gemau electronig a chymorth logistaidd. Er mwyn darparu hyn, maen nhw'n gweithgynhyrchu eu holl offer yn eu ffatri yn Abertawe.

"Bydd pobl wastad yn ceisio eich beirniadu, ond peidiwch byth ag ildio."

Adam George - InHouse Entertainments

Fe gafodd y busnes ei greu gan Adam George, sy'n hoff iawn o blymio o'r awyr. Mae e'n credu ei bod yn bwysig i bobl ym myd busnes gynnal eu diddordebau y tu allan i'w gwaith er mwyn gallu rhyddhau'r tensiwn ac ymlacio (sef y rheswm pam mae'n hoffi neidio allan o awyrennau!).

Mae Adam wastad wedi bod â diddordeb mewn busnes a gwneud arian. Mae'n honni nad yw dyddiad dechrau swyddogol y busnes yn gwbl gywir gan ei fod wedi dechrau ei gynllunio gyda'i ffrinidiau yn yr ysgol pan oedd yn bedair ar ddeg oed.

Wrth sefydlu'r busnes, mae Adam wedi gorfod ymdopi â heriau ariannol fel ceisio osgoi dyled. Mae hynny wedi golygu bod datblygu'r asedau ar gyfer llogi offer wedi cymryd mwy o amser nag y byddai wedi hoffi. Er gwaethaf hyn, buddsoddodd lawer o arian mewn adeilad newydd yn 2012. Gyda lwc, bydd hyn yn talu ar ei ganfed er mwyn iddo allu buddsoddi mewn mwy o eiddo ar gyfer y cwmni ac ehangu'n fwy rhyngwladol o bosibl er mwyn cydlynu digwyddiadau ar raddfa ehangach ar gyfer eu cleientiaid.

Fe gafodd Adam ei synnu gan lwyddiant ei flwyddyn gyntaf ym myd busnes gan ei fod wedi creu cysylltiadau da yn y tymor byr, ac roedd cleientiaid wedi archebu’r gwasanaeth cyn i’r busnes gael ei sefydlu. Er mwyn tyfu busnes, dysgodd yn gynnar ei bod yn hanfodol buddsoddi'n eithaf sylweddol mewn asedau a phobl sydd â'r sgiliau cywir i wneud eu gwaith yn dda.


Cysylltu gyda Adam