Samira Mohammed Ali
Breathe
Trosolwg:
Rydw i’n canolbwyntio ar gyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrio i bobl gyffredin ac mae gen i ddulliau ac adnoddau cyffrous ar y we i’w rhannu â phobl.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Abertawe

Fel cyn-Fodel i’r cwmni Brands, Actores Ryngwladol a Chynhyrchydd Teledu/Ffilmiau, rydw i wedi bod yn myfyrio ers pan oeddwn i’n 18 oed. Mae’r ymarferion hyn nid yn unig wedi rhoi ffordd i mi ymdopi â phwysau amserlen brysur, ond mae technegau ymwybyddiaeth ofalgar wedi fy helpu hefyd i oresgyn yr ofn a’r gorbryder sy’n gysylltiedig â cherdded y ‘catwalk’ a charpedi coch ledled y byd. Mae wedi fy ngalluogi i glirio fy meddwl i ddysgu sgriptiau’n effeithiol ar gyfer rôl mewn ffilm a chyflwyno mewn digwyddiadau byw hefyd.

Yn ystod fy ngyrfa actio, rydw i wedi treulio amser dramor lle cefais gyfle i ddatblygu fy sgiliau myfyrio gyda’r arbenigwyr gorau a gwella fy nhechnegau anadlu i’r lefel nesaf. Fe wnaeth y sesiynau uwch yma fy helpu ymhellach gyda fy ngwaith anodd a’m hamserlen teithio ddwys lle’r oedd disgwyl i mi fod â ffocws cadarn o hyd.

Gyda fy Niploma mewn Myfyrio, rydw i’n awyddus iawn i helpu eraill ac yn frwdfrydig iawn dros helpu pobl sy’n byw gyda symptomau o iselder, gorbryder ac ofn a gwneud gwahaniaeth enfawr drwy helpu i wneud eu bywydau’n fwy cariadus a chadarnhaol gydag ymarferion pŵer anadlu. Rydw i wedi dioddef sawl her yn bersonol ac o fewn y teulu ac rydw i’n canolbwyntio ar bobl, gan ofalu am eu meddyliau gydag ‘ymarfer iechyd meddwl’ syml iawn ond effeithiol.