Kristina ydw i, ac rydw i’n berchen ar fy nghwmni fy hun, sef 'Kristina Banholzer Photography'.
Roeddwn i’n 16 oed pan ddefnyddiais i gamera am y tro cyntaf. Ar ôl astudio ffotograffiaeth yn yr ysgol am ychydig fisoedd, roeddwn i ar fin mynd ar daith unwaith mewn oes i India. Doeddwn i ddim yn siŵr iawn beth i’w wneud gyda’r ddyfais, ond erbyn i mi ddychwelyd, roeddwn i wedi dod o hyd i hobi newydd ac yn benderfynol o ddilyn fy niddordeb newydd yn y cyfrwng!
Roeddwn i’n ddigon ffodus i astudio Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol Casnewydd, ond ar ôl fy nghyfnod yno, fe gollais yr hyder i afael mewn camera eto. Aeth blynyddoedd heibio, bûm yn teithio’r byd, ac fe ddechreuais i weithio mewn swyddfa...ac roeddwn i’n gwybod, ym mêr fy esgyrn, nad oedd hynny’n addas i mi. Dyma roddodd y sbardun i mi fynd ati i ddechrau fy nghwmni fy hun, a dydy fy mywyd i ddim wedi bod yr un fath ers hynny!
Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae’r busnes yn ffynnu. Mae gen i LAWER o hoff atgofion fel ffotograffydd llawrydd yn barod! Rydw i’n cael gweithio ym myd teledu a’r theatr ac mewn gwyliau erbyn hyn, ac yn cwrdd â nifer fawr o bobl wych!
Rydw i wrth fy modd yn fy ngwaith!
Fy mhrif awgrym i fyddai annog pawb i wneud gwaith gwirfoddol yn lleol er mwyn dod i adnabod eich cymuned, a meithrin cysylltiadau da â phobl leol. Pobl leol fydd eich cyswllt busnes gorau pan fyddwch chi angen hynny.