Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Canolfan Entrepreneuriaeth
Dewch o hyd i ni ar y llawr 1at yn adeilad yr AU, Campws Llandaf. Rydym wedi'n lleoli yn swyddfa'r SU, drws nesaf i Starbucks. Mae gennym bolisi drws agored, a byddem wrth ein bodd pe baech yn galw i fewn am sgwrs am eich cynlluniau busnes.
Mae'r Ganolfan Entrepreneuriaeth a'n staff yn rhan o gymuned wydn, gweithgar ac ymgysylltiol.
Ein cenhadaeth yw eich grymuso i gydnabod a datblygu cyfleoedd i greu gwerth.
Ein nod yw cefnogi, annog a hyrwyddo entrepreneuriaeth a sicrhau ei fod yn hygyrch i bawb.
Rydym yn gweithredu fel catalydd wrth greu sefydliadau cynaliadwy newydd sy'n rhoi'r hyder a'r cyfle i sylfaenwyr ymarfer sgiliau i greu gwerth yn eu syniadau.
Mae'r Ganolfan Entrepreneuriaeth yn ymwneud â bod yn fwy entrepreneuraidd os ydych am ddechrau busnes eich hun neu gwneud gwahaniaeth o fewn sefydliad.
Mae ein digwyddiadau a'n gweithgareddau wedi'u cynllunio i adeiladu meddylfryd entrepreneuraidd, datblygu sgiliau newydd ac ysbrydoli myfyrwyr i gael effaith.
Gall y ganolfan gynnig i chi:
- Cymuned gefnogol gyda digwyddiadau cymdeithasol
- Rhaglenni a gweithdai sgiliau busnes craidd i ddatblygu eich gwybodaeth
- Cyfleoedd ariannu ar gyfer pob cam o'ch busnes
- Mentora a chymorth un i un gan hyfforddwyr busnes ymroddedig
- Ymgysylltu ag entrepreneuriaid a sgyrsiau gwadd ysbrydoledig
- Profi cyfleoedd masnachu
- Rhaglen ddiddorol o ddigwyddiadau a gweithgareddau
- Gofod deori busnes i dyfu eich busnes newydd
- Tîm cyfeillgar a rhagweithiol!
Dewch i wybod mwy yn: www.cardiffmet.ac.uk/entrepreneurship
Facebook: www.facebook.com/cardiffmetent
Twitter: @CardiffMetEnt
Instagram: @cardiffmetent
Y Tîm
Isabelle Ford - Hyrwyddwr Menter - iford@CardiffMet.ac.uk
Hannah Willis - Hyrwyddwr Menter - HWillis@cardiffmet.ac.uk