Prifysgol Fetropolitan Caerdydd

Canolfan Entrepreneuriaeth

Dewch o hyd i ni ar y llawr 1at yn adeilad yr AU, Campws Llandaf.  Rydym wedi'n lleoli yn swyddfa'r SU, drws nesaf i Starbucks.  Mae gennym bolisi drws agored, a byddem wrth ein bodd pe baech yn galw i fewn am sgwrs am eich cynlluniau busnes.

Mae'r Ganolfan Entrepreneuriaeth a'n staff yn rhan o gymuned wydn, gweithgar ac ymgysylltiol.  

Ein cenhadaeth yw eich grymuso i gydnabod a datblygu cyfleoedd i greu gwerth.

Ein nod yw cefnogi, annog a hyrwyddo entrepreneuriaeth a sicrhau ei fod yn hygyrch i bawb. 

Rydym yn gweithredu fel catalydd wrth greu sefydliadau cynaliadwy newydd sy'n rhoi'r hyder a'r cyfle i sylfaenwyr ymarfer sgiliau i greu gwerth yn eu syniadau.  

Mae'r Ganolfan Entrepreneuriaeth yn ymwneud â bod yn fwy entrepreneuraidd os ydych am ddechrau busnes eich hun neu gwneud gwahaniaeth o fewn sefydliad.  

Mae ein digwyddiadau a'n gweithgareddau wedi'u cynllunio i adeiladu meddylfryd entrepreneuraidd, datblygu sgiliau newydd ac ysbrydoli myfyrwyr i gael effaith.

Gall y ganolfan gynnig i chi:

  • Cymuned gefnogol gyda digwyddiadau cymdeithasol
  • Rhaglenni a gweithdai sgiliau busnes craidd i ddatblygu eich gwybodaeth
  • Cyfleoedd ariannu ar gyfer pob cam o'ch busnes
  • Mentora a chymorth un i un gan hyfforddwyr busnes ymroddedig
  • Ymgysylltu ag entrepreneuriaid a sgyrsiau gwadd ysbrydoledig
  • Profi cyfleoedd masnachu
  • Rhaglen ddiddorol o ddigwyddiadau a gweithgareddau
  • Gofod deori busnes i dyfu eich busnes newydd
  • Tîm cyfeillgar a rhagweithiol!

Dewch i wybod mwy yn: www.cardiffmet.ac.uk/entrepreneurship

Facebook: www.facebook.com/cardiffmetent

Twitter: @CardiffMetEnt

Instagram: @cardiffmetent

 

Y Tîm

Isabelle Ford - Hyrwyddwr Menteriford@CardiffMet.ac.uk

Steve Aicheler - Rheolwr EntrepreneuriaethSAicheler@CardiffMet.ac.uk

Fran Hunt - Hyfforddwr Busnes/Mentor Busnes - fehunt@cardiffmet.ac.uk

Mari Griffiths - Hyfforddwr Busnes/Mentor Busnes - mggriffiths@cardiffmet.ac.uk

Hannah Willis - Swyddog Marchnata, Digwyddiadau a Gweinyddiaeth - HWillis@cardiffmet.ac.uk

Grace Kironde-Strain - Swyddog Marchnata, Digwyddiadau a Gweinyddiaeth - GKironde-Strain@cardiffmet.ac.uk