Gwybodaeth am Syniadau Mawr Cymru
Mae ymgyrch Syniadau Mawr Cymru yma i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru ac ysgogi pobl ifanc 25 oed neu iau i ddatblygu sgiliau menter beth bynnag fo'u dewis gyrfa.
Mae ein gwefan yn darparu cyflwyniad i fusnes ar gyfer cynulleidfaoedd iau ac mae’n cynnwys dolenni defnyddiol at ein prif safle busnescymru.llyw.cymru i helpu i feithrin gwybodaeth busnes; gydag offer, gwybodaeth a chymorth i'r rheiny sydd eisiau cychwyn busnes.
25 oed neu iau? Gall Syniadau Mawr Cymru dy helpu i:
Cofrestrwch yma i gael eich canllaw cychwyn am ddim a mwy
- Gael ysbrydoliaeth am yr hyn y gallet fod eisiau ei wneud yn y dyfodol
- Canfod ychydig mwy am sut brofiad fyddai cychwyn dy fusnes dy hun
- Clywed gan entrepreneuriaid eraill yng Nghymru (sy'n rhannu eu storïau a chynghorion gwych!)
- Canfod rhagor amdanat dy hun gyda chanllawiau a hunanasesiadau buddiol
- Dy helpu di i gynhyrchu syniadau a'u hystyried i'r eithaf
- Cymryd rhan mewn menter a manteisio ar y cyfleoedd a'r gweithdai
- Dysgu am destunau busnes allweddol a dolenni i wella dy wybodaeth
- Canfod beth sy'n digwydd yn dy goleg neu dy brifysgol a sut i gymryd rhan yn hynny
- Canfod beth yw “cymorth busnes” a phwy allai dy helpu
- Ymuno â phobl ifanc tebyg ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol Facebook, Twitter and Instagram
Syniadau Mawr Cymru - ar gyfer Partneriaid:
Rydym yma i helpu partneriaid hefyd - athrawon, tiwtoriaid, arweinwyr ieuenctid a sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu sgiliau menter.
- Gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael â Syniadau Mawr Cymru ar gyfer ein partneriaid;
- Darparu offer ac adnoddau i gefnogi'r cwricwlwm a helpu athrawon a thiwtoriaid ddarparu addysg entrepreneuriaeth yng Nghymru;
- Darparu gwybodaeth am y prosiectau sy’n cefnogi YES a sut i gymryd rhan
- Gwneud cysylltiadau priodol ar gyfer pobl ifanc rhwng y gweithgaredd a'r gefnogaeth a ddarperir gan bawb o dan Gynllun Gweithredu Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid (IE);
- Cael gwybod am ystod o bartneriaid a'r hyn y gallant ei gynnig i helpu.
Mae'n ymwneud â dy helpu di i fentro ac mae'n ymwneud â helpu ein partneriaid i ddod ynghyd i dy gefnogi di! Ewch i'n gwefan partner yma