Jonathan Fry
Event Rater Ltd
Trosolwg:
Mae Event Rater Ltd yn wefan ac ap sy’n casglu adborth oddi wrth rai oedd yn bresennol i helpu trefnwyr digwyddiadau a rheolwyr canolfannau i werthuso’u digwyddiad.
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Rhanbarth:
Caerdydd

Mae Event Rater Ltd yn wefan ac ap sy’n galluogi casglu adborth oddi wrth rai oedd yn bresennol i helpu trefnwyr digwyddiadau a rheolwyr canolfannau i werthuso’u digwyddiad. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o wefannau adolygu, nid yw’r cyhoedd yn gallu gweld yr adborth gan ei fod i ddibenion gwerthuso digwyddiadau a chanolfannau’n unig a hynny’n ôl y meini prawf a ddetholwyd. Er mwyn annog adborth mae cystadlaethau ac ati’n gyfle i ennill nwyddau wedi’u llofnodi a thocynnau wedi’u huwchraddio i gynnwys lletygarwch.