Zoe Murphy ydw i, rwy’n fam i dri phlentyn, yn Swyddog Ymgysylltu Cymunedol i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn ysgrifennwr ac yn fardd perfformio, yn goreograffwr, yn ddarlithydd ac yn bwysicaf oll yn berchennog busnes! Rwy’n dwlu ar bopeth fy mod yn rhan ohono ond uwchben popeth rwy’n dwlu ar eiriau a llyfrau a dyna’r rheswm dros fy mhartner a minnau’n penderfynu cychwyn ein busnes ‘Pulpworm.’
Ar ôl cwblhau fy nghwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol ac Ysgrifennu i’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe cefais fy nghomisiynu i ysgrifennu nifer o ddramâu dawns i’r theatr ac rwyf yn gwneud hynny o hyd. Cafodd fy ngwaith ei gyhoeddi’n annibynnol ddwywaith mewn dwy flodeugerdd barddoniaeth ynghyd â’m cynulliad barddoniaeth ‘Poets on the Hill’ sef grŵp a ddaeth i fodolaeth ar ôl i ni gymryd rhan mewn rhaglen BBC Wales o’r enw ‘Ugly Lovely: Poet on the Estate’ gyda’r bardd enwog Benjamin Zephaniah. Ysgrifennodd a pherfformiodd y cast ein fersiwn ein hunain o ‘Dan y Wenallt’ gan Dylan Thomas a seiliwyd yn Townhill, Abertawe sef fy ardal fy hun gan ei pherfformio yn Theatr Dylan Thomas yn Abertawe fel rhan o ddathliadau Canmlwyddiant Dylan Thomas yn 2014. Hefyd derbyniwyd canmoliaeth ardderchog am ein blodeugerdd gyntaf gan gyn-breswylydd ond yn gyd-breswylydd Townhill, Chris Coleman ac ers hynny rydym wedi mynd o nerth i nerth. Mae fy mhartner wedi gwasanaethu yn y Fyddin ers ugain mlynedd a chan gyfuno ein holl brofiad ac arbenigedd penderfynon ni gychwyn Pulpworm.
Rydym yn fusnes sy’n gwerthu llyfrau, yn cyhoeddi llyfrau ac yn fusnes addysgu ac mae ein holl waith yn cynnwys pob peth sy’n ymwneud â chreadigrwydd a llythrennedd wrth ei galon. Rydym yn dymuno rhoi awtonomiaeth i ysgrifenwyr a golwg ffres ar weithdai ysgrifennu ac ysgrifennu creadigol wedi’i gyfuno â busnes.
Credaf fod bod yn entrepreneur yn mynd yn ddwysach na rhedeg busnes yn unig ac mae’n feddylfryd penodol. Fy uchelgais, ar wahân i dyfu’r busnes, yw profi y gall unrhyw un fod yn berchennog busnes beth bynnag eich cefndir, eich hanes, eich profiad a gall unrhyw un fabwysiadu agwedd entrepreneuraidd i lwyddo ym mha bynnag maes y maent yn ei ddymuno ac i lwyddo mewn bywyd.