Mae Dathlu Syniadau Mawr yn ŵyl sy’n llawn ysbrydoliaeth greadigol ac arloesol! Dyma gyfle i chi archwilio sgiliau newydd a dysgu am sut i fagu dull entrepreneuraidd o feddwl - p’un a ydych chi’n ystyried bod yn fos arnoch chi’ch hun un diwrnod neu heb hyd yn oed meddwl amdano fe eto. Rydym ni eisiau rhoi’r cyfle i chi ddarganfod sut i ddatgloi’r potensial uchelgeisiol sydd tu fewn i chi!

Mae’r digwyddia dyn cael ei gefnogi gan nifer o gyrff fel Admiral, NatWest a’r Gweilch, a fydd yno ar y diwrnod hefyd i gynnig cipolwg proffesiynol a gwybodaeth werthfawr am ddysgu am yr hanfodion busnes hynny a datblygu agwedd entrepreneuraidd ym ma lwybr gyrfa bynnag a ddewiswch.

Mae gennym ni rai siaradwyr anhygoel hefyd, ynghyd â gweithdai rhyngweithiol y cewch chi gymryd rhan ynddyn nhw. Dyma gyfle ardderchog i chi rannu’ch syniadau, gofyn cwestiynau a chael cefnogaeth gan entrepreneuriaid ifanc ysbrydoledig, Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru ac arbenigwyr diwydiant.

Byddwch yn Feiddgar, Byddwch yn Ddewr a Byddwch yn Fòs arnoch chi’ch hun!

Blog Dathlu! Syniadau Mawr

 

 

 

 

 

 

 

Dylech chi fynychu’r digwyddiad hwn os ydych chi:

  • Rhwng 16 a 25 oed
  • Eisoes yn entrepreneur ifanc ac eisiau’r cyfle i arddangos eich hun
  • Yn ymddiddori mewn entrepreneuriaeth fel opsiwn gyrfa
  • Heb unrhyw syniad beth rydych chi eisiau ei wneud yn y dyfodol
  • Yn rhan o dîm menter mewn ysgol, coleg, prifysgol neu grŵp cymunedol

Mae gan bawb y potensial am fawredd Dechreuwch eich taith chi gyda Dathlu Syniadau Mawr!

 

 

 

 

Drwy gymryd rhan ar y diwrnod, byddwch chi’n:

  • Cysylltu ag entrepreneuriaid ifanc, Modelau Rôl, arbenigwyr diwydiant, yn ogystal â phobl ifanc frwdfrydig o’r un anian.
  • Darganfod eich potensial entrepreneuraidd 
  • Dod oddi yno gydag angerdd a phenderfyniad i roi cynnig ar bethau newydd
  • Cael cefnogaeth ac arweiniad am sut i droi’ch syniadau yn realiti
  • Dysgu i fod yn hyderus, yn ddi-ofn ac yn oportiwnistig!

 

Bydd y Digwyddiad Dathlu Syniadau Mawr nesaf yn Stadiwm Abertawe ar 27 Mawrth 2019, 11am - 3:30pm

 

Cofiwch gofrestru gan fod lleoedd yn brin! Gwnewch yn siŵr ein bod yn eich gweld yno!

 

Cadwch eich lle chi! 

NODDWR CYSYLLTIOL - NatWest

Yn NatWest Cymru, rydym yn annog diwylliant sy'n fwy entrepreneuraidd. O'r ystafell ddosbarth i'r ystafell fwrdd, rydym yn ysbrydoli a galluogi menter ar bob cam o'r daith. 

Rydym yn gwybod y gall rhedeg busnes fod yn gyffrous a heriol. Rydym yn deall bod entrepreneuriaid a busnesau angen y cyfuniad cywir o gefnogaeth, cyngor a chyllid i lwyddo.  Dyna pam yr ydym yn darparu ystod eang o wasanaethau ar gyfer busnesau o bob siâp a maint, ym mhob sector o'r economi. 
Rydym yn ymwybodol hefyd bod pobl angen help i archwilio'r syniad o fenter, datgloi eu potensial ac ennill y sgiliau, gwybodaeth a rhwydweithiau cywir cyn y byddant yn gallu cyflawni eu huchelgeisiau.

 NODDWR CYSYLLTIOL - Admiral

Rydym yn hynod falch i gefnogi Dathlu Syniadau Mawr Cymru ac i annog entrepreneuriaid dewr a beiddgar y dyfodol. Ers ei lansiad yn ei bencadlys yng Nghaerdydd yn 1993 mae Admiral wedi tyfu o'i gychwyn bychan i fod yn un o ddarparwyr yswiriant modur mwyaf yn y DU. Mae gennym hefyd weithrediadau o amgylch y byd. Caiff ein dull o weithredu ei lywio gan wasanaeth cwsmer ac arloesedd, a'i hyrwyddo gan waith caled a galluoedd cyfunol ein gweithlu talentog

   

Pwy ydym ni?  

Mae Ospreys in the Community yn elusen gofrestredig sy’n gweithio’n agos mewn partneriaeth  gyda Rygbi Ospreys.  Er yn rhannu perthynas gadarn ac yn rhan allweddol o Strategaeth Osprey, mae Ospreys in the Community yn gweithredu’n annibynnol i’r sefydliad rygbi proffesiynol.    

Ein bwriad wrth gyd weithio gyda phartneriaid masnachol, cyrff y sector gyhoeddus ac asiantaethau trydydd sector i gynhyrchu cefnogaeth ariannol ac adnoddau  yw creu Sefydliad bywiog a chynaliadwy sy’n defnyddio grym diamheuol brand yr Ospreys a’r chwaraewyr mewn dull positif, er mwyn  defnyddio rhinwedd cymdeithasol a chael effaith ar ein cymunedau.

Beth ydym yn ei wneud?

 

Ein prif amcan yw defnyddio pŵer chwaraeon a brand yr Ospreys i roi grym i bobl oddi fewn i Ospreylia i’w galluogi i wneud dewisiadau bywyd positif. Bydd Ospreys in the Community yn chwarae rhan bwysig yng nghyswllt gwella bywydau llawer o bobl waeth beth fo’u hoedran, gallu neu ryw. 

 

Bwriadwn wella bywydau trwy weithio mewn partneriaeth gyda mudiadau eraill i greu ystod eang o raglenni arloesol oddi fewn i bedwar Thema Strategol; Addysg, Iechyd, Chwaraeon a Chynhwysiad.

 

Yn  2017/18 gweithiodd Ospreys in the Community yn agos gyda dros 46,000 o bobl yn eu cymunedau, gan ddod yn sefydliad sefydledig sy’n darparu rhaglenni cynaliadwy a phleserus sy’n cael effaith positif ar fywydau'r Ospreylians.

 

‘Bydd Ospreys in the Community yn gweithio i gefnogi’r Ospreylians er mwyn i’r Ospreylians yn ein cefnogi ni.