Gwobr 'Try It' UnLtd
Ydych chi'n angerddol am ysgogi newid cymdeithasol?
A oes gennych syniad am ddatrysiad i broblem gymdeithasol?
Mae UnLtd Try It yn dyrannu symiau gweddol fach o gyllid i unigolion ysbrydoledig sydd am roi cynnig ar wireddu syniad. Mae’n berffaith ar gyfer arloeswyr cymdeithasol, felly! Gall eich helpu gyda phethau fel costau marchnata, mentora, lleoliadau a llawer mwy.
Sut y gallai eich helpu chi:
-Hyd at £500 o gyllid wedi’i deilwra i chi
-Arweiniad un-i-un gan Reolwr Gwobr UnLtd
-Cyngor arbenigol gan arbenigwyr perthnasol
-Mynediad at adnoddau i’ch helpu i gael eich traed oddi tanoch
Mae’r Wobr hon wedi’i dylunio i’ch helpu i ddatblygu ar eich cyflymder eich hun gyda’r cymorth cywir i ddatblygu eich sgiliau entrepreneuraidd.
Mae’n rhaid i chi ddangos eich bod chi’n:
- Frwd ynghylch gwella problem gymdeithasol rydych chi wedi’i nodi
- Gallu dangos gwybodaeth neu brofiad o’r broblem
- Gallu ysbrydoli eraill neu mae gennych chi’r potensial i wneud hynny
- Gallu neu’n barod i wneud aberth bersonol er mwyn datblygu'r prosiect h.y. rhoi eich amser i’r prosiect neu wneud cyfraniad ariannol
Y Fenter:
- Rhaid iddi ddatrys problem gymdeithasol
- Rhaid iddi fod yn gyfle i’r ymgeisydd ddysgu
- Rhaid iddi fod er budd y cyhoedd neu’r gymuned
- Rhaid bod angen Gwobr ‘Try It’ UnLtd arni i lwyddo
- Rhaid i chi fod dros 16 oed (ar ddyddiad y cais)
- Ni ddylai'r cais fod ar ran grŵp sydd eisoes yn weithredol
- Rhaid eich bod chi’n byw yn y DU
- Ni ddylai’r Wobr dalu am gostau byw yr ymgeisydd
- Ni all fod yn rhan o’ch swydd
- Ni all ariannu ymgyrchoedd gwleidyddol na hyrwyddo crefydd
- Rhaid iddo fod yn brosiect newydd
- Ni ellir defnyddio’r Wobr i gyflogi pobl eraill i gyflawni rhan helaeth o’r gwaith
- Yswiriant
- Mentora a Chefnogaeth
- TG ac offer perthnasol arall
- Llogi lleoliad
- Argraffu, hysbysebu a chyhoeddusrwydd
- Llogi offer
- Deunyddiau
- Treuliau gwirfoddolwyr
- Teithio a chynhaliaeth
- Ffurfio cwmni
- Ffioedd cofrestru
Am ragor o wybodaeth ebostiwch eich syniadau bras i JaneRyall@unltd.org.uk erbyn Rhagfyr 31 2019.