Gwobr 'Try It' UnLtd

Ydych chi'n angerddol am ysgogi newid cymdeithasol?

A oes gennych syniad am ddatrysiad i broblem gymdeithasol?


Mae UnLtd Try It yn dyrannu symiau gweddol fach o gyllid i unigolion ysbrydoledig sydd am roi cynnig ar wireddu syniad. Mae’n berffaith ar gyfer arloeswyr cymdeithasol, felly! Gall eich helpu gyda phethau fel costau marchnata, mentora, lleoliadau a llawer mwy.

Sut y gallai eich helpu chi:

-Hyd at £500 o gyllid wedi’i deilwra i chi

-Arweiniad un-i-un gan Reolwr Gwobr UnLtd

-Cyngor arbenigol gan arbenigwyr perthnasol

-Mynediad at adnoddau i’ch helpu i gael eich traed oddi tanoch

 

Mae’r Wobr hon wedi’i dylunio i’ch helpu i ddatblygu ar eich cyflymder eich hun gyda’r cymorth cywir i ddatblygu eich sgiliau entrepreneuraidd.

Mae’n rhaid i chi ddangos eich bod chi’n:

  • Frwd ynghylch gwella problem gymdeithasol rydych chi wedi’i nodi
  • Gallu dangos gwybodaeth neu brofiad o’r broblem
  • Gallu ysbrydoli eraill neu mae gennych chi’r potensial i wneud hynny
  • Gallu neu’n barod i wneud aberth bersonol er mwyn datblygu'r prosiect h.y. rhoi eich amser i’r prosiect neu wneud cyfraniad ariannol

Y Fenter:

  • Rhaid iddi ddatrys problem gymdeithasol
  • Rhaid iddi fod yn gyfle i’r ymgeisydd ddysgu
  • Rhaid iddi fod er budd y cyhoedd neu’r gymuned
  • Rhaid bod angen Gwobr ‘Try It’ UnLtd arni i lwyddo

  • Rhaid i chi fod dros 16 oed (ar ddyddiad y cais)
  • Ni ddylai'r cais fod ar ran grŵp sydd eisoes yn weithredol
  • Rhaid eich bod chi’n byw yn y DU
  • Ni ddylai’r Wobr dalu am gostau byw yr ymgeisydd
  • Ni all fod yn rhan o’ch swydd
  • Ni all ariannu ymgyrchoedd gwleidyddol na hyrwyddo crefydd
  • Rhaid iddo fod yn brosiect newydd
  • Ni ellir defnyddio’r Wobr i gyflogi pobl eraill i gyflawni rhan helaeth o’r gwaith
  • Yswiriant
  • Mentora a Chefnogaeth
  • TG ac offer perthnasol arall
  • Llogi lleoliad
  • Argraffu, hysbysebu a chyhoeddusrwydd
  • Llogi offer
  • Deunyddiau
  • Treuliau gwirfoddolwyr
  • Teithio a chynhaliaeth
  • Ffurfio cwmni
  • Ffioedd cofrestru

Am ragor o wybodaeth ebostiwch eich syniadau bras i  JaneRyall@unltd.org.uk erbyn Rhagfyr 31 2019.