Artist brwsh aer, sy’n gweithio ledled y byd, sy’n dod â thimau o artistiaid galluog ac arbenigwyr thema ynghyd, ac yn gweithio ochr yn ochr â cherflunwyr ac artistiaid golygfaol.
Ar ôl gadael yr ysgol hanner ffordd drwy fy lefel A, fe wnes i brentisiaeth 4 blynedd mewn peirianneg. Ar ôl cael fy nghymwysterau penderfynais gymryd 6 mis i ffwrdd, syrffio a theithio ar hyd arfordiroedd Ewrop a chyrhaeddais Senegal yng Ngorllewin Affrica. Ar ôl dychwelyd, roeddwn yn gweithio fel artist brwsh aer yn y diwydiant syrffio, ac yna es ymlaen i wneud rhywfaint o waith brwsh aer ar gyfer cwmni arwyddion, lle yn y pen draw, des yn gyd-gyfarwyddwr y cwmni. Ar ôl pedair blynedd llawn straen, fe benderfynais weithio ar fy mhen fy hun, heb neb arall i’w feio pe bai pethau’n mynd o chwith.
Dylech bob amser drin pobl yn yr un modd ag yr hoffech chi gael eich trin Mae’n rhaid ennill parch, ni allwch ei brynu.Christopher Gadd - Artworks
I ddechrau roedd yn anodd iawn dod o hyd i waith, yn enwedig gan fod y gwaith mor arbenigol. Fe ddaliais ati, gan wneud yr holl gamgymeriadau mae’r newydd-ddyfodiaid i’r byd hunangyflogedig yn ei wneud, megis cymryd pob darn o waith a gweithio oriau chwerthinllyd, ond roedd bob cam yn bwysig i ddysgu.
Ar ôl sioe fasnach aflwyddiannus, cysylltwyd â mi gan gwmni o’r DU yn gofyn a fyddwn yn ystyried contract byr fel artist golygfaol. Roedd yn heriol iawn ac yn llawer mwy o foddhad nag unrhyw un o fy ngwaith blaenorol. Galwodd y cwmni ar fy ngwasanaethau yn rheolaidd ar ôl hynny, ac yn y pen draw des yn artist arweiniol ar gyfer nifer o gwmnïau thema.
Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i weithio ar rai prosiectau anhygoel ar draws y byd, ochr yn ochr â rhai pobl yr un mor anhygoel. Mae wedi bod yn lefelwr mawr mewn bywyd, bob amser yn antur, yn aml yn heriol, ac weithiau yn ostyngedig iawn.
Hoffwn drosglwyddo fy mhrofiadau, a gyda gobaith dangos y gallwch gyflawni eich goliau gyda’r agwedd a’r ymroddiad cywir.
Gwefan: http://www.airbrushedart.co.uk/