Mike Balsamo
Mike Balsamo
MB Personal Training
Trosolwg:
Mae fy nhîm a minnau’n helpu pobl nad ydynt yn hoffi’r gampfa i golli braster oddi ar y corff, i wella eu hiechyd ac i fod y fersiwn orau o’u hunain.
Sectorau:
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Rhanbarth:
Abertawe

Rwyf bob amser wedi meddu ar angerdd am iechyd a ffitrwydd a helpu pobl i wireddu eu potensial.

Yn 19 oed enillais ysgoloriaeth lawn ar gyfer Ysgol Ddrama flaenllaw yn Llundain – ond nid oedd hynny’n addas i mi. Ar ôl dwy flynedd aeth fy mam yn sâl. Penderfynais fod angen i mi ddychwelyd i Abertawe.

Yn ôl adref, byddai fy ffrindiau a’m cydweithwyr bob amser yn dweud wrthyf y dylwn i fod yn Hyfforddwr Personol a dechrau fy musnes fy hun ond roedd hyn yn codi ofn arnaf.

Yn 2012, pan oeddwn mewn swydd a oedd yn effeithio ar fy iechyd meddwl a’m hiechyd corfforol, penderfynais fynd amdani.

Roedd dewis gyda fi – dilyn fy angerdd i neu ddilyn angerdd rhywun arall.

Penderfynais gymryd naid ffydd a dilyn fy angerdd. Nid wyf wedi edrych yn ôl.

Wrth adeiladu’r busnes gweithiais fel Rheolwr Cynorthwyol mewn siop ffonau symudol ac fel porthwr mewn clwb nos, a oedd yn golygu diwrnod gwaith 12 awr ac ychydig iawn o amser i weld fy nheulu.

Ond talodd y gwaith caled a’r ymrwymiad yn y pen draw.

Erbyn hyn rwy’n meddu ar Stiwdios Hyfforddiant Personol 2,500 troedfedd sgwâr, wedi’u rhannu’n dair ardal breifat lle gall ein cleientiaid gyflawni eu nodau heb yr ofn eu bod yn cael eu beirniadu gan bobl eraill. Rydym yn torri tir yn y farchnad Hyfforddi Ar-lein er mwyn i ni helpu rhagor o bobl o amgylch y byd i wireddu eu potensial, i wella eu hiechyd a’u ffitrwydd.

“Gwnewch y pethau rydych chi’n dwlu arnynt ac ni fyddwch chi byth yn gweithio diwrnod yn eich bywyd.”

Rwyf yn wirioneddol yn dwlu ar yr hyn yr wyf yn ei wneud. Teimlaf fod dyletswydd arnaf i helpu rhywun i gyflawni ei nod wrth weld ei botensial – os yw hynny’n ymwneud â ffitrwydd neu fywyd.