Rhiannon Jones
Rhiannon Jones
Addysg Seren Education
Trosolwg:
Mae Addysg Seren Education yn Asiantaeth Addysgu wedi’i lleoli yn Sir Gaerfyrddin.
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Caerfyrddin

Mae Addysg Seren Education yn Asiantaeth Addysgu wedi’i lleoli yn Sir Gaerfyrddin. Rydym yn cofrestru Athrawon a Chynorthwywyr Addysgu cymwys ac yn darparu gwaith llanw ar eu cyfer mewn ysgolion lleol.

Fues i ddim yn breuddwydio erioed am fod yn ymgynghorydd recriwtio, mae’n swydd yr es iddi ar hap pan oeddwn yn 24 oed, a darganfod ei bod yn swydd ddelfrydol i mi!

Un noson, dros y bwrdd swper, trafodais bosibiliadau sefydlu fy musnes fy hun. Wedi gwyntyllu’r manteision a’r anfanteision, dywedodd fy ngŵr ‘cer amdani i weld sut aiff pethau’ ac ers hynny, rydw i wedi gwneud sawl penderfyniad ar sail y dywediad yna!

D’yw bod yn hunan-gyflogedig ddim bob amser yn fêl i gyd; roedd rheoli cydbwysedd bywyd/gwaith yn wers fawr i’w dysgu. Nid rhywbeth o 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener yw bod yn hunan-gyflogedig, rhaid bod yn barod am oriau anghymdeithasol hir iawn! Trefn yw’r allwedd i sicrhau eich bod yn mwynhau eich gwaith a’ch bywyd gartref.

Mae gen i deulu ifanc ac rwy’n ddiolchgar fy mod yn gallu trefnu fy amser o gwmpas eu casglu o’r feithrinfa, rhywbeth na fyddai’n bosibl pe bawn i mewn swydd 9 tan 5. Y peth gorau am fod yn bennaeth arnaf fy hun yw’r hyblygrwydd a’r teimlad o lwyddiant wrth weld bod y gwaith caled yn talu ar ei ganfed.