Wedi’i sefydlu gan Robert Corcoran yn 2014, mae 73 Degree Films yn gwmni cynhyrchu ffilmiau sy’n datblygu ac yn cynhyrchu cynnwys gwreiddiol megis ffilmiau byr, cyfresi i’r we, fideos cerddoriaeth a mwy. Lleolwyd y cwmni yn Hyb Mentergarwch Wrecsam. Mae eu prosiectau diweddar yn 2018 yn cynnwys y gyfres i’r we ‘People in Places’ a’r sioe lwyfan ‘Projekt Z’ (cydweithrediad â SignDance Collective gan weithio yn Nhwrci ac yn Awstria). Mae 73 Degree Films wedi cydweithredu ac wedi partneru â nifer o gwmnïau rhyngwladol ac maent hefyd wedi creu cynnwys ar gyfer cwmnïau enwog megis BBC Wales. Yn ogystal â datblygu cynnwys gwreiddiol mae’r cwmni hefyd yn meddu ar gangen ddielw amlwg sy’n canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant a phrofiad ym maes y cyfryngau.
Dechreuodd angerdd Rob at ffilmiau pan oedd yn ifanc iawn a byddai’n ysgrifennu ei sgriptiau ei hun ac yn creu ffilmiau gyda’i ffrindiau gan ddefnyddio camera fideo ei fam-gu a’i dad-cu. Yn 2012, tra’n astudio yng Ngholeg Iâl, dewiswyd un o sgriptiau Rob i gael ei gynhyrchu ar gyfer prosiect BBC Wales. Dyna’r adeg iddo sylweddoli y gall gwneud ffilmiau fod yn llwybr gyrfa posib. Sefydlodd 73 Degree Films 2 flynydd yn unig yn ddiweddarach yn 2014 tra’n cwblhau ei radd Ffiseg ym Mhrifysgol Lerpwl. Ar ôl symud yn ôl i Wrecsam gofynnodd am gyngor gan Fusnes Cymru cyn ymgorffori 73 Degree Films yn swyddogol ym mis Mai 2017. Mae Rob yn arbennig o falch o’i ffilm gomedi a leolwyd yn Wrecsam sef “You Are Invited To” a lwyddodd i uno 15 o fusnesau lleol a thros 30 o actorion lleol.
Nid oedd Rob byth wedi astudio busnes na helpu i redeg cwmni o’r blaen, sylweddolodd yn syth bod nifer o gwestiynau a materion y byddai angen iddo eu goresgyn yn 2017. Yn y man cychwyn cysylltodd Rob â Busnes Cymru i holi ynghylch cymorth busnes a chyfleoedd ariannu ar gyfer ei fusnes newydd. Derbyniodd gymorth cynghori a mynychodd nifer o weithdai gan gynnwys Rheoli eich Cyllid a Threth a Chadw Llyfrau. Ar ôl hyn, cofrestrodd â Chlwb 5 i 9 Busnes Cymru sef rhaglen 12 wythnos a ariennir yn llawn sydd wedi’i dylunio i helpu entrepreneuriaid trwy gyfnod cynnar eu busnes newydd gan alluogi iddynt dderbyn yr holl gymorth busnes y mae ei angen arnynt ond wedi’i drefnu o amgylch eu hamserlenni prysur.
“Roeddwn yn wir wedi mwynhau rheoli fy amserlen fy hun a phenderfynu pa waith i’w dderbyn. Wrth i 73 Degree Films ddod yn fwy sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf mae ein cyfleoedd hefyd wedi cynyddu’n fawr. Mae penderfynu sut i reoli ein gwaith a chreu perthnasoedd hir oes â chwmnïau a gweithwyr llawrydd eraill wedi bod yn daith anhygoel. Rwy’n dwlu arni!”