Thomas
Thomas Turner
Ember Technology Design
Trosolwg:
Llysgennad Ifanc - Cwmni ymgynghoriaeth dylunio newydd, sy’n arbenigo mewn argraffu 3D ledled gogledd Cymru.
Sectorau:
Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Sir Ddinbych

Mae fy musnes Ember Technology Design yn gwmni ymgynghoriaeth dylunio newydd sy’n arbenigo mewn Argraffu 3D. Mae gennyf brofiad helaeth o ddylunio CAD, dylunio graffeg, datblygu prototeipiau, braslunio, Rendro ac argraffu 3D wrth weithio gydag amrywiaeth o fusnesau mewn gwahanol sectorau o’r farchnad. Rydym ni’n gweithio gyda busnesau newydd a busnesau bach eraill ledled gogledd Cymru gan eu helpu i ddatblygu cynnyrch / gwasanaethau newydd, diffinio eu hunaniaeth brand a’u helpu i farchnata i gyrraedd eu cwsmer delfrydol.

Rydw i wedi bod wrth fy modd yn dylunio, yn braslunio ac yn adeiladu ers pan oeddwn i’n ifanc, a phan es i’r Ysgol Uwchradd a dechrau’r gwersi ‘Dylunio Cynnyrch’ ym mlwyddyn saith, fe ddigwyddodd rywbeth, ac roeddwn i’n gwybod bod hyn yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei ddilyn fel gyrfa ryw ddydd. Es ymlaen i astudio dylunio cynnyrch ym Mhrifysgol Bangor ac roeddwn wrth fy modd yno. Tua diwedd fy ngradd, dechreuais ymddiddori mwy mewn Astudiaethau Busnes a sylweddolais y gallwn ddefnyddio’r sgiliau roeddwn wedi’u hennill dros y blynyddoedd a chreu busnes. Yn fuan ar ôl creu’r busnes, dechreuais rwydweithio gyda chwmnïau ac unigolion eraill ledled gogledd Cymru, ac yn gyflym, fe wnes i greu cronfa o gleientiaid a oedd angen help i ddatblygu agweddau penodol ar eu busnes.

Drwy rwydweithio a chymryd rhan mewn llu o weminarau dros gyfnod y cyfyngiadau symud yn ystod argyfwng Covid 19, rwyf wedi gallu creu cysylltiadau cadarnhaol gydag unigolion anhygoel ledled gogledd Cymru. Maen nhw wedi gallu cynnig cyfleoedd i mi weithio ar rai prosiectau anhygoel. Y prosiect mwyaf diweddar oedd prosiect amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd ‘SkuProject’ sy’n canolbwyntio ar warchod gorchudd rhew’r Arctig drwy greu peiriannau sy’n gallu harneisio deunydd / ynni adnewyddadwy a gwasgaru haen newydd o rew ar ben y strwythurau presennol i gryfhau mwy ar gyfanrwydd y rhew a gwarchod cynefinoedd. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn werth chweil o ran datblygu fy sgiliau personol fel dylunydd ac fel busnes drwy weithio ar rywbeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth i genedlaethau’r dyfodol.

Mae bod yn Rheolwr Gyfarwyddwr eich busnes eich hun yn her, ond rydych bob amser yn dysgu o’ch camgymeriadau, mae’n eich datblygu chi fel person ac rwyf wedi mwynhau pob eiliad ohono’n fawr iawn. Rwy’n gobeithio datblygu fy musnes ymhellach i’r pwynt lle gallaf ddechrau cyflogi’r holl dalent leol ledled gogledd Cymru a chynnig cyfleoedd i ddarpar fyfyrwyr nad oeddent ar gael i mi pan oeddwn yn tyfu i fyny yng Nghymru. Yn ystod fy ngyrfa yn y dyfodol fel dylunydd, rwy’n gobeithio cymryd rhan mewn mwy o brosiectau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y byd drwy ddulliau creadigol ac arloesol. Ni fyddai unrhyw ran o’m taith wedi bod yn bosib heb frwdfrydedd