Rwy'n trefnu digwyddiadau chwaraeon i fenywod fel syrffio, padlfyrddio ar eich sefyll, dringo, beicio mynydd, eirafyrddio ac ati. Rwy'n trefnu, yn hyrwyddo ac yn mynychu pob digwyddiad. Rwyf hefyd yn cynnal rhai digwyddiadau cymdeithasol o'r enw She Talks sy'n cynnwys menywod anhygoel yn adrodd eu hanesion am antur, chwaraeon, iechyd meddwl ac ati gan roi cyfle i fenywod gael eu hysbrydoli a chymdeithasu.
Rwyf hefyd yn gweithio’n llawrydd fel golygydd fideo a sain, gan gynnwys fideos ar gyfer BBC Sesh, a phodlediadau ar gyfer BBC Sounds. Rwyf wedi gweithio fel blogiwr a flogiwr ac mae gen i fy fideo YouTube fy hun sydd wedi fy ngalluogi i gael gwaith fel y sawl sy’n creu’r cynnwys.
Dechreuais fy musnes pan raddiais o'r Brifysgol. Rwyf bob amser wedi bod yn angerddol am chwaraeon, rwy'n gyn athletwr Snowboard Cross Prydain ac rwyf wedi cymryd rhan erioed mewn llawer o chwaraeon awyr agored - roeddwn am roi cyfle i fwy o fenywod roi cynnig ar y chwaraeon anhygoel yma, rhoi cyfle iddynt herio eu hunain a chyfarfod pobl o'r un anian.
Gall chwaraeon gynnig cymaint i bobl, ac roeddwn am rymuso menywod drwy chwaraeon.
Roeddwn bob amser eisiau bod yn fos arnaf fy hun, roedd gan fy nhaid ei fusnes ei hun a fy nhad ar ei ôl. Mae'n rhywbeth yr oeddwn bob amser yn dyheu am ei wneud.
Pan ddechreuais fy musnes, roedd yn rhywbeth hollol wahanol ond wnaeth y syniad ddim yn gweithio. Ar ôl llawer o newidiadau/ ymchwil i'r farchnad ac ailfeddwl, fe gyrhaeddais i ble ydw i nawr.
Y peth gorau am fod yn fos arnaf fy hun yw gallu gweithio pan ac o ble rydych chi eisiau, yr hyblygrwydd a gwneud yr hyn rydych chi'n ei garu!
Fy awgrym gorau i entrepreneuriaid ifanc yw: Dilynwch eich angerdd a mentrwch! Byddwch yn dysgu cymaint yn y broses.