Treuliais 15 mlynedd mewn swyddi lle’r oeddwn yn gyfrifol am gyfathrebu ac am brosiectau yn y llywodraeth, mewn cwmnïau corfforaethol ac mewn busnesau newydd, cyn sefydlu fy musnes fy hun. Yn yr amser hwnnw, fe wynebais i’r da, y drwg a’r hagr o safbwynt llesiant yn y gweithle a thimau iach, llwyddiannus.
Ar ôl hanner lladd fy hun â gwaith yn 2018 daeth yn glir fod y ffordd roeddwn i a llawer o bobl eraill yn gweithio nid yn unig yn ddrwg i iechyd yr unigolyn ond hefyd yn niweidiol i enw da a thwf y busnes.
Felly, mi benderfynais weithredu’r newid yr oeddwn i’n awyddus i’w weld yn y gweithle gan ddechrau mynd i’r afael â’r perthnasoedd rhyfedd a rhyfeddol rhwng llesiant meddwl a gwaith.
Nawr, rwyf fi’n helpu unigolion a busnesau sy’n uchelgeisiol ond sy’n cael eu llethu gan waith, i osgoi lladd eu hunain a meithrin iechyd meddwl da a thyfu busnes llwyddiannus ar yr un pryd.
Rwy’n gwneud hyn gyda hyfforddiant ymarferol sy’n cyfuno fy mhrofiadau personol i gyda’m cymwysterau mewn iechyd meddwl, rheoli busnesau, y gyfraith a chyfathrebu i roi i bobl offer ymarferol i’w helpu i ffynnu yn y gwaith.