Abi Carter
Abi Carter
Forensic Resources
Trosolwg:
Ymgynghoriaeth sy'n gweithio ar achosion fforensig
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Caerdydd

Rydw i'n archeolegydd fforensig ac fe sefydlais fy musnes ychydig ar ôl cael fy mhen-blwydd yn 24.

Rydw i wedi cael hyfforddiant am sut i chwilio, canfod a chloddio mewn achosion o lofruddiaeth a hil-laddiad, ond fe sefydlais ymgynghoriaeth yn 2008 er mwyn i mi allu gweithio ar achosion fforensig.

"Gofynnwch i gynifer o bobl â phosibl am help!"

Abi Carter - Forensic Resources

Ni wnes i erioed feddwl y baswn i'n entrepreneur neu’n gweithio i mi fy hun gan nad ydw i'n rhywun sy'n cymryd risg.

Fodd bynnag, dwi'n mwynhau gallu gweithio yn ôl fy mhwysau fy hun a’r ffaith mod i ddim yn atebol i neb arall.

Roedd fy mlwyddyn gyntaf ym myd busnes yn un anodd. Fodd bynnag, fe wnes i fagu hyder a dechrau mwynhau'r llwyddiant wrth imi gael achosion newydd. Fe gefais lawer o gefnogaeth gan fy ffrindiau a fy nheulu hefyd.


Cysylltu gyda Abi