Abi Owen
Abi Owens
The Goodness Guide
Trosolwg:
Rhoi adloniant penodol ac o'r safon uchaf i gleientiaid
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerdydd

Rydw i wedi bod yn gweithio ym meysydd digwyddiadau ac adloniant ers 10 mlynedd. Fe ddechreuais arni fel coreograffydd a chyfarwyddwr creadigol cyn gweithio fwyfwy ym myd adloniant. Fe sylweddolais mai cynhyrchu perfformiadau oedd fy niddori i fwyaf, yn ogystal â bod yn gysylltiedig â'r agwedd greadigol. Rydw i wedi ennill profiad ar ôl bod yn rheolwr cyfrifon yn un o'r prif asiantaethau adloniant ac yn rheolwr cwmni theatr hip-hop mwyaf blaenllaw'r Deyrnas Unedig. Fe arweiniodd hyn yn naturiol at agor MishMash Management. Dyma lle rydw i wedi defnyddio fy sgiliau rheoli a chreadigol i gynnig adloniant penodol ac o'r safon uchaf i fy nghleientiaid.

"Rydw i'n credu'n gryf bod angen angerdd go iawn i fod yn entrepreneur. Mae pobl yn prynu gan bobl. Felly, os oes gennych ffydd yn eich cynnyrch neu eich gwasanaeth, ac rydych yn gwerthu i gleient, rydych hanner ffordd yno. Rhaid i chi fod â chariad at eich busnes. Fel arall, byddwch yn diflasu a bydd eich busnes yn dod i ben."

Abi Owens - MishMash Management

Dyma rai o'r digwyddiadau yr ydw i wedi cynhyrchu perfformiadau ar eu cyfer: Gwobrau Laurence Olivier 2011, Gwobrau MOBO 2010 a 2011, Taith y Fflam Olympaidd yn Llundain (Islington), Seremoni Groesawu Olympaidd Llundain yn y Tŷ Opera Brenhinol.

Dyma rai o fy nghleientiaid blaenorol:

Clwb Pêl-droed Everton, Fformiwla 1, Fformiwla E, Rali Cymru Prydain Fawr (seremoni agoriadol), Bentley, Volvo, TRO, Jack Morton, Vidal Sassoon, Innovision, Disney, Huawei, The Young Vic, DeVere, Frank PR, Voucher Codes, Novus Leisure, Logistik, y GIG, The Dorchester, Grosvenor House, BBC, Chessington World of Adventures, David Seaman, Sony, OSCC-Tsieina, Some Bright Spark, ICS Live, Ymddiriedolaeth Elusennol Boparan.

 


Cysylltu gyda Abi

 

Ebostabi@wishmashmanagement.com