Adam Amor
Adam Amor
Buffoon Film and Media
Trosolwg:
Fideos hyrwyddo, ffilmio digwyddiadau, hyfforddiant ffotograffiaeth a chwmni ymgynghori ar y cyfryngau cymdeithasol
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Castell Nedd Port Talbot

Rwyf yn gynhyrchydd fideo hunanddysgedig, a dechreuais fy musnes cyntaf yn 14 oed fel hyrwyddwr cerddoriaeth. Nawr fi yw sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Buffoon Film and Media. Rydym yn cynnig fideos hyrwyddo, ffilmio digwyddiadau, ffotograffiaeth, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth cyfryngau cymdeithasol i fusnesau ar draws y DU.

Gwnewch eich ymchwil, byddwch yn drefnus, a chymrwch risgiau! 

Adam Amor - Buffoon Film and Media

Pan ddechreuais ffilmio digwyddiadau sylweddolais fod fideos yn helpu i hyrwyddo gigs a oedd ar y gweill, a datblygodd Buffoon Film and Media o hynny.

Rwyf wrth fy modd yn rheoli cwmni ifanc a chyffrous sy'n her i mi bob dydd. Mae rhedeg busnes yn llawn uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, ond mae bod yn drefnus a gwneud yn siŵr y gallwch dalu eich staff a chyflenwyr yn brydlon yn allweddol.