Adam Curtis
Clockwork Bear
Trosolwg:
Asiantaeth meddalwedd a dylunio gwefannau
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Rhanbarth:
Abertawe

Yn yr ysgol sylwais fod gennyf ddawn gyda rhaglennu cyfrifiaduron, ac astudiais gyfrifiadura yn y brifysgol. Fe ddes allan gyda gradd dda a chefais fy noddi gan Hewlett Packard lle datblygais fy sgiliau. Ar ôl gweithio i nifer o gwmnïau eraill symudais yn ôl i Abertawe a sefydlu Clockwork Bear.

Cymerwch eich amser, mwynhewch y daith, a meithrin cymaint o wybodaeth â phosibl am y busnes yr ydych yn mentro iddo

Adam Curtis - Clockwork Bear

 

Mae'n asiantaeth dylunio meddalwedd a’r we sy'n darparu gwasanaeth pwrpasol i gleientiaid. Rwyf hefyd wedi lansio ail gwmni o'r enw Hoowla sydd yn llwyfan trawsgludo ar-lein. Roedd y flwyddyn gyntaf mewn busnes yn galed iawn a phe bawn yn cael fy amser eto, ni fyddwn yn cymryd pob prosiect ar fy ysgwyddau, a byddwn wedi adeiladu fy nhîm o weithwyr proffesiynol yn gynharach, yn hytrach na gwneud popeth fy hun.

Gwefan: www.clockworkbear.com