Adam Harris
Adam Harris Ltd
Trosolwg:
Ymgynghorydd pensaernïol ac amgylcheddol
Sectorau:
Adeiladu
Rhanbarth:
Castell Nedd Port Talbot

Fe ddysgais lawer am bensaernïaeth gan fy nhad, felly roedd mynd yn bensaer yn teimlo fel cam naturiol i mi.  Roedd gweithio i gwmni rhywun arall yn fy niflasu, felly fe sefydlais fy musnes fy hun pan oeddwn yn 20. 

"Dysgwch o bob profiad a chamgymeriad"

Adam Harris - Adam Harris Ltd

Roeddwn yn ffodus i gael aelodau o'r teulu o nghwmpas oedd yn rhedeg eu busnesau eu hunain, ac fe wnaeth hynny ddylanwadu arna i.

Rydw i'n ymgynghorydd pensaernïol ac amgylcheddol  Rydw i'n credu mewn dylunio adeiladau sy'n hwylus i bobl ac yn ystyried yr amgylchedd – dyluniadau dilys a heb fod yn perthyn i unrhyw gyfnod penodol.  Rydw i wrth fy modd gyda'r rhyddid a'r hyblygrwydd sydd gen i drwy weithio imi fy hun, ond nid yw at ddant pawb, wrth gwrs.


Cysylltu gyda Adam